Mae’r Gleision wedi cyhoeddi fod y blaenasgellwr Ellis Jenkins wedi arwyddo cytundeb hir dymor newydd gyda’r rhanbarth.
Daw’r cytundeb yn dilyn tymor llwyddiannus hyd yn hyn i’r gŵr 20 oed ar ôl iddo lwyddo i greu argraff ar y clwb yn ei dymor cyntaf, gan gynnwys cael ei enwi’n gapten ar gyfer gêm y Gleision yn erbyn Caerfaddon yng Nghwpan yr LV y penwythnos diwethaf.
Mae’r newyddion hefyd yn dod yn sgil penderfyniad blaenasgellwr arall y Gleision, Sam Warburton, i arwyddo cytundeb canolog gydag Undeb Rygbi Cymru o dymor nesaf ymlaen.
Mae Ellis Jenkins eisoes wedi bod yn gapten ar dîm dan-20 Cymru, gan eu harwain nhw i rownd derfynol Pencampwriaethau Ieuenctid y Byd yn Ffrainc y llynedd.
Ac fe ddywedodd Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision Phil Davies fod arwyddo’r blaenwr addawol yn hwb mawr i’r rhanbarth.
“Yma yn y Gleision mae gennym ni rai o flaenwyr rheng-ôl mwyaf disglair rygbi Cymru, felly mae’r newyddion fod Ellis wedi arwyddo cytundeb newydd yn wych,” meddai Phil Davies.
“Ellis yw cyn-gapten dan-20 Cymru ac mae’n chwaraewr clyfar ac aeddfed tu hwnt sy’n gwneud penderfyniadau da.
“Mae’n dalent enfawr fydd ond yn gwella. Mae Ellis eisiau datblygu fel rhif 7 ond hefyd â’r gallu i chwarae fel rhif 6.
“Rydym ni’n falch o’i gadw oherwydd does dim dwywaith y byddai wedi denu sylw clybiau eraill.”
Dywedodd Jenkins, sydd wedi bod gyda’r Gleision ers iddo fod yn 14 oed ac wedi bod yn gapten ar eu tîm dan-18 yn ogystal, ei fod yn gobeithio parhau i ddatblygu gyda’r rhanbarth.
“Rwyf wedi tyfu lan gyda llawer o’m cyd-chwaraewyr,” meddai Ellis Jenkins. “Rwyf wedi mwynhau datblygu yma ac roeddwn i wastad eisiau aros gyda’r Gleision.
“Roedd bod yn gapten ar y Gleision yr wythnos diwethaf yn fraint enfawr a nawr rwyf eisiau sefydlu fy hun fel chwaraewr rhanbarthol.
“Rwyf wedi bod yn rhan ohoni dros y misoedd diwethaf ac yn gobeithio y gallaf wthio ymlaen yn bellach y tymor nesaf.”