Golwg360 sy’n cadw llygad ar holl glecs y ffenestr drosglwyddo ymysg clybiau Cymru a chwaraewyr Cymreig, ynghyd â newyddion am drosglwyddiadau sy’n cael eu cadarnhau.

Cadarnhad

Emyr Huws (Man City i Birmingham) ar fenthyg

Clecs

Mae Caerdydd yn paratoi i werthu’r ymosodwr Andreas Cornelius am £3m yn ôl i FC Copenhagen – gan wneud colled o £5m ar y chwaraewr 20 oed a arwyddon nhw dim ond chwe mis yn ôl (Wales Online)

Mae Abertawe wedi galw Kyle Bartley yn ôl o’i gyfnod ar fenthyg yn Birmingham – gydag un llygad ar y posibilrwydd o’i werthu cyn i’r ffenestr gau (Birmingham Mail)

Mae rheolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjaer wedi cadarnhau fod y clwb mwy neu lai wedi cwblhau trosglwyddiadau Wilfried Zaha a Fabio da Silva ar fenthyg o Man United (ESPN)

Yn ôl Solskjaer mae’r clwb eisoes wedi cwblhau trosglwyddiad Fabio, gyda ond dyw’r cytundeb am Zaha heb ei gadarnhau 100% eto – ac nid yw’n disgwyl arwyddo unrhyw un arall cyn i’r ffenestr gau (BBC Sport)

Mae Abertawe’n dal i aros am ateb gan Tom Ince ar ôl cytuno ar ddêl gyda Blackpool a chynnig cytundeb iddo (clubcall.com)

Ond mae Abertawe’n wynebu brwydr am lofnod yr asgellwr gan Stoke, Crystal Palace, Sunderland a Hull bellach wrth iddyn nhw geisio cwblhau trosglwyddiad Ince (Daily Mail)

Ond dyw rheolwr Abertawe Michael Laudrup ddim yn poeni’n ormodol am ddod a rhagor o wynebau newydd i’r garfan, gyda Michu ar drothwy gwella o’i anaf (South Wales Evening Post)

Ac un sy’n anhebygol iawn o arwyddo i Abertawe erbyn hyn yw amddiffynwr Middlesbrough Rhys Williams, ar ôl iddo ddioddef anaf neithiwr (BBC Sport)

Mae rheolwr Portsmouth Richie Barker yn gobeithio ymestyn cyfnod Daniel Alfei ar fenthyg o Abertawe nes diwedd y tymor (Midhurst & Pentworth Observer)

Y ffenestr hyd yn hyn

Adam King (Hearts i Abertawe) ffi heb ei ddatgelu

Jernade Meade (Abertawe i Luton) ar fenthyg

Kenwyne Jones (Stoke i Gaerdydd) cyfnewid

Peter Odemwingie (Caerdydd i Stoke) cyfnewid

Elliot Durrell (Hednesford i Wrecsam)

Jo Inge Berget (Molde i Gaerdydd) ffi heb ei ddatgelu

Jake Cassidy (Wolves i Tranmere) ar fenthyg

Jason Oswell (Rhyl i Airbus UK)

Corey Jenkins (Caerfyrddin i Monmouth Town) ar fenthyg

John Brayford (Caerdydd i Sheffield United) ar fenthyg

Ryan Jones (Bala i Porthmadog) ar fenthyg

Tyrrell Webbe (Caerau (Ely) i Gaerfyrddin)

Mark Crutch (Afan Lido i Ton Pentre)

Ashley Williams (Caer i Airbus UK)

Jason Bertorelli (Cambrian & Clydach i Port Talbot) ar fenthyg

Jordan Follows (Caerfyrddin i Llanelli) ar fenthyg

Nicky Maynard (Caerdydd i Wigan) ar fenthyg

Adrian Cieslewicz (Wrecsam i Kidderminster) ffi heb ei ddatgelu

Lewis Codling (Bala i Gaernarfon) ar fenthyg

Sean Smith (Wrecsam i Gap Cei Connah) ar fenthyg

Lee McArdle (Caernarfon i Gap Cei Connah)

Ceri Morgan (Cambrian & Clydach i Gaerfyrddin)

Jay Colbeck (Wrecsam i Fangor) ar fenthyg

Jamie Tolley (dim clwb i Fae Colwyn)

Mats Moller Daehli (Molde i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Kieron Freeman (Derby i Notts County) ar fenthyg

Daniel Collins (Marconi Stallions i Bala) am ddim

Rene Howe (dim clwb i Casnewydd)

Filip Kiss (Caerdydd i Ross County) ar fenthyg

Magnus Wolff Eikrem (Heerenveen i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Elliot Hewitt (Ipswich i Gillingham) ar fenthyg

Alan Tate (Abertawe i Aberdeen) ar fenthyg

Rudy Gestede (Caerdydd i Blackburn) heb gyhoeddi ffi

Daniel Alfei (Abertawe i Portsmouth) ar fenthyg

Luke Holden (dim clwb i Gap Cei Connah)

Ryan Edwards (Gap Cei Connah i TNS)

Mark Smyth (Gap Cei Connah i Prestatyn)

Gary Roberts (dim clwb i Gap Cei Connah)

Sean Thornton (dim clwb i Bala)

Andy Jones (Y Drenewydd i Airbus)

Michael Burns (dim clwb i Gap Cei Connah)

Russell Courtney (Nantwich Town i Gap Cei Connah)

Gerwyn Jones (Caernarfon i Bangor)

Keyon Reffel (Afan Lido i Gaerfyrddin)

Carlos Roca (dim clwb i Rhyl)