Abertawe 2–0 Fulham

Dychwelodd Abertawe i hanner uchaf yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth yn erbyn Fulham ar y Liberty nos Fawrth.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr, fe rwydodd Jonjo Shelvey a Chico Flores gôl yr un yn yr ail gyfnod i sicrhau’r tri phwynt i’r Cymry.

Bu bron i Shelvey agor y sgorio yn yr hanner cyntaf ond tarodd ei gynnig yn erbyn y trawst.

Ond llwyddodd y chwaraewr canol cae i ganfod cefn y rhwyd toc wedi’r awr, er bod angen cymorth dau wyriad arno i wneud hynny.

Yna, chwarter awr o’r diwedd, fe ddyblodd Chico’r fantais gyda pheniad o gic rydd Jonathan de Guzman, er i’r gôl hon dderbyn cymorth gwyriad hefyd – oddi ar Dimitar Berbatov y tro hwn.

Bu rhaid i Gerhard Tremmel fod yn effro i atal yr eilydd, Darren Bent, yn y munudau olaf ond digon cyfforddus oedd y fuddugoliaeth i’r Elyrch mewn gwirionedd.

Mae’r canlyniad yn codi Abertawe chwe lle i’r degfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair, chwe phwynt o flaen Caerdydd ar y gwaelod.

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Rangel, Davies, De Guzmán (Pozuelo 88′), Chico, Williams, Hernández (Dyer 58′), Britton, Bony, Shelvey (Amat 79′), Routledge

Goliau: Shelvey 61’, Chico 75’

Cerdyn Melyn: Bony 90’

.

Fulham

Tîm: Stekelenburg, Riether, Richardson, Sidwell, Hangeland, Burn, Dejagah (Bent 59′), Parker, Berbatov (Tankovic 83′), Dempsey (Duff 71′), Kacaniklic

Cerdyn Melyn: Richardson 75’

.

Torf: 20,004