Man U 2–0 Caerdydd

Colli fu hanes rheolwr newydd Caerdydd, Ole Gunnar Solskjær, wrth fynd â’i dîm i herio’i hen glwb yn Old Traffod nos Fawrth.

Roedd gôl yr un i Robin Van Persie ac Ashley Young yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r pencampwyr yn y gêm Uwch Gynghrair.

Chwe munud yn unig oedd wedi mynd pan rwydodd Van Persie’s gôl agoriadol wedi i beniad Antonio Valencia adlamu oddi ar y trawst i’w lwybr.

Mu bron i Mark Hudson unioni i Gaerdydd o gig gornel ond cafodd ei atal gydag arbediad da gan David de Gea yn y gôl i Man U.

Yna, dyblodd y tîm cartref eu mantais toc cyn yr awr gyda chynnig da o bellter gan Young.

Cafodd Juan Mata gyfle i ychwanegu trydedd i’w dîm newydd ond llwyddodd David Marshall i arbed ei ergyd, a chyfunodd yr Albanwr gyda’r postyn i atal Antonio Valencia hefyd.

Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd ar waelod tabl yr Uwch Gynghrair.

.

Man U

Tîm: de Gea, Rafael, Evra, Jones, Smalling, Evans, Antonio Valencia, Giggs (Cleverley 71′), van Persie (Rooney 63′), Mata (Januzaj 85′), Young

Goliau: Van Persie 6’, Young 59’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton, John, Whittingham, Caulker, Hudson (Turner 69′), Noone (Daehli 78′), Medel, Campbell, Mutch (Kim 52′), Bellamy

Cerdy nMelyn: Bellamy 21’

.

Torf: 75,301