Bydd Cymru yn wynebu’r Iseldiroedd mewn
Chris Coleman
gêm gyfeillgar yn Amsterdam ym mis Mehefin medd Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Bydd yr Iseldiroedd yn defnyddio’r gêm, ar ddydd Mercher 4 Mehefin yn Arena Amsterdam, fel rhan o’u paratoadau terfynol ar gyfer eu hymgyrch i Gwpan y Byd ym Mrasil.

Fe wnaeth y ddau dîm gyfarfod ddiwethaf mewn gêm gyfeillgar yn Rotterdam cyn Ewro 2008, gyda’r tîm cartref yn ennill 2-0.

Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wrth ei fodd y bydd ei garfan yn cael y cyfle i frwydro yn erbyn un o brif dimau Ewrop.

Dywedodd: “Ni allwn ofyn am gêm well ar gyfer fy ngharfan ar ddiwedd y tymor.

“Mae pawb yn gwybod am, ac yn parchu, arddull yr Iseldiroedd o chwarae a bydd y gêm yn ein galluogi  i fesur ein hunain yn erbyn un o’r timau gorau yn Ewrop, a’r byd hefyd.”