Ole Gunnar Solskjaer
Mae Ole Gunnar Solskjaer yn dychwelyd i Old Trafford fel rheolwr Caerdydd heno wrth i’r Adar Gleision herio Manchester United.
Fydd ymosodwr newydd Caerdydd, Kenwyne Jones, ddim yn chwarae rhan yn y gêm heno oherwydd nad yw’r trosglwyddiad wedi cael ei gadarnhau gan yr FA eto.
Mae disgwyl hefyd i Gaerdydd arwyddo dau o chwaraewyr Man United, Wilfried Zaha a Fabio Da Silva, yn fuan ond o’r eisteddle fydd y rhain yn gwylio’r gêm heno.
Ond un enw newydd fydd yn gobeithio chwarae rhan fydd Magnus Wolff Eikrem, a ddechreuodd ei gêm gyntaf i Gaerdydd dros y penwythnos yng Nghwpan yr FA.
Andrew Taylor yw’r unig chwaraewr o’r tîm cyntaf sydd yn parhau i fod ag anaf, gan olygu bod gan Solskjaer garfan lawn i ddewis ohoni fwy neu lai.
Hen glwb Solskjaer
Mae’n debyg y bydd Solskjaer, ffefryn ymhlith cefnogwyr Man United yn ystod ei gyfnod yno, yn derbyn croeso cynnes yn Old Trafford.
Ond gadael gyda thri phwynt hollbwysig yw’r unig beth ar feddwl rheolwr Caerdydd wrth iddo baratoi am y gêm.
“Mae’r tîm yn edrych ymlaen yn arw,” meddai Solskjaer yn y gynhadledd i’r wasg cyn y gêm. “Rydym ni am fynd a rhoi perfformiad y gallwn ni fod yn falch ohono.”
Mae Man United yn gobeithio y bydd Wayne Rooney a Robin Van Persie yn holliach i gymryd rhan yn y gêm ar ôl anafiadau, ar ôl i’r ddau ymarfer gyda’r tîm ddoe.
Ond fe fyddwn nhw heb Nemanja Vidic ar ôl i’r amddiffynnwr gael cerdyn coch yn erbyn Chelsea y penwythnos diwethaf.
Serch hynny, mae trosglwyddiad newydd Man United, Juan Mata, yn debygol o chwarae ei gêm gyntaf i’r Red Devils, gyda’r rheolwr David Moyes yn gobeithio bydd y chwaraewr canol cae gynt o Chelsea yn gallu ysbrydoli’r tîm sydd wedi colli pedair gwaith yn Old Trafford eisoes y tymor hwn.