Jonathan de Guzman
Bydd Abertawe’n wynebu Fulham mewn gêm hollbwysig y penwythnos yma wrth i’r ddau dîm geisio cipio tri phwynt fyddai’n eu codi nhw i ffwrdd o dri gwaelod yr Uwch Gynghrair.
Mae Abertawe’n 15fed yn y tabl ar hyn o bryd, tri phwynt yn unig yn uwch na West Ham sy’n 18fed, gyda Fulham pwynt yn unig o flaen yr Hammers yn 17fed.
Ac mae disgwyl y bydd y ddau dîm yn gwneud newidiadau ar ôl iddyn nhw roi cyfle i nifer o chwaraewyr ymylol yn eu gemau cwpan dros y penwythnos.
Bydd yr ymosodwr David N’Gog ar gael i Abertawe ar ôl iddo arwyddo o Bolton nes diwedd y tymor ddoe, tra bod Jonathan de Guzman a Jonjo Shelvey hefyd yn agosáu at ddychwelyd o anafiadau ond yn annhebygol o fod yn holliach i ddechrau heno.
Mae’r golwr Michel Vorm a’r asgellwr Nathan Dyer hefyd yn parhau i fod yn amheuon ag anafiadau, tra bod Jose Canas a Michu ymysg y rheiny sydd dal yn derbyn triniaeth.
Dau dîm ar rediad gwael
Dim ond un o’u deg gêm ddiwethaf yn y gynghrair y mae Abertawe wedi’i hennill, rhediad sydd wedi peri gofid i’w rheolwr Michael Laudrup.
“Mae’r pedair gêm nesaf yn dyngedfennol,” meddai Laudrup. “Rydym ni’n chwarae gwrthwynebwyr sydd yn agos iawn i ni yn y tabl ac mae’n gyfnod pwysig iawn.
“Ond mae’n rhaid i ni baratoi ar gyfer pob gêm fel petai’n ffeinal. Rwy’n gobeithio y gall ein buddugoliaethau yn y gwpan – yn erbyn Man United a Birmingham – yn rhoi hwb ychwanegol i ni.”
Abertawe oedd yr enillwyr pan chwaraeodd y ddau dîm yn erbyn ei gilydd ym mis Tachwedd, gyda’r Elyrch yn cipio buddugoliaeth o 2-1 yn Craven Cottage.
Ond mae Fulham wedi newid eu rheolwr ers hynny, gyda’r dyn newydd wrth y llyw Rene Meulensteen wedi ennill tri o’i naw gêm ers cymryd yr awenau oddi wrth Martin Jol.
Ac o edrych ar ganlyniadau diweddar y ddau dîm mae’n debygol y bydd Stadiwm y Liberty’n gweld goliau heno – dyw Abertawe heb gadw llechen lan yn eu wyth gêm ddiwethaf yn y gynghrair, tra bod Fulham ddim ond wedi cadw un yn eu pymtheg gêm ddiwethaf.