Adam King
Mae Abertawe wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo’r chwaraewr canol cae addawol Adam King o Hearts am ffi sydd heb ei ddatgelu.

Roedd adroddiadau’r wythnos diwethaf wedi awgrymu bod Abertawe mewn trafodaethau â’r clwb o’r Alban i brynu’r llanc 18 oed am ffi o hyd at £200,000.

Ac mae’r clwb bellach wedi arwyddo’r Albanwr ar gytundeb o dair blynedd a hanner, gyda King yn ymarfer gyda’r tîm dan-21 am y tro cyntaf heddiw.

Mae King eisoes wedi chwarae tair gêm i Hearts, sydd wedi bod mewn trafferthion ariannol dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi gorfod chwarae nifer o chwaraewyr ifanc y tymor yma.

Maen nhw ar waelod Uwch Gynghrair yr Alban ar hyn o bryd ar ôl iddyn nhw orfod dechrau’r tymor gyda chosb o 15 o bwyntiau oherwydd y trafferthion.

King yw’r ail chwaraewr o fewn 24 awr i arwyddo i Abertawe, ar ôl i’r clwb gadarnhau eu bod nhw wedi sicrhau llofnod yr ymosodwr David Nghog o Bolton ar gytundeb nes diwedd y tymor.

“Mae’n teimlo’n wych bod yma,” meddai Adam King. “Mae wastad am fod yn anodd gadael clwb rydych chi’n ei garu, eich cartref a’ch teulu hefyd, ond mae dod i Abertawe, ble maen nhw’n adeiladu rhywbeth arbennig, yn dda i mi.

“Mae’r ffordd y mae Abertawe’n chwarae yn wych ac yn fy siwtio i’r dim. Rwy’n hoffi chwarae’r bêl ar y llawr a pheidio gorfodi pethau.

“I mi fel chwaraewr canol cae, rwy’n edmygu chwaraewyr fel Jonjo Shelvey a Leon Britton yma, ac yn credu y gallaf ddysgu llawer ganddynt.”