Dan Lydiate
Mae blaenasgellwr Cymru Dan Lydiate wedi cael caniatâd i adael y garfan ryngwladol i ddychwelyd i Ffrainc oherwydd bod ei bartner ar fin rhoi genedigaeth.

Fe gadarnhaodd yr hyfforddwr Warren Gatland fod Lydiate ar ei ffordd nol i Baris, ond fe ddywedodd ei fod yn ffyddiog y byddai yn ôl mewn pryd i herio’r Eidal ddydd Sadwrn, ar ôl cael ei enwi yn y pymtheg fydd yn dechrau.

Mewn cyfweliad i sianel deledu’r Undeb Rygbi, dywedodd Gatland ei fod wastad yn pwysleisio wrth y garfan pa mor bwysig oedd teulu.

“Fe wnes i siarad gydag ef [Lydiate] a gofyn a oedd o eisiau’r penwythnos bant, a meddwl am yr wythnos wedyn, ond roedd e’n bendant ei fod eisiau dychwelyd i chwarae,” cadarnhaodd Gatland.

Os na fydd Lydiate yn gallu dychwelyd mewn pryd, fe fydd Gatland yn gallu galw ar Sam Warburton wedi i seren y Gleision gael ei enwi ar y fainc.

Jon Davies yn ôl – i’r Scarlets

Fe gadarnhaodd Warren Gatland hefyd fod canolwr Cymru Jonathan Davies wedi gwella o anaf i’w frest ac y bydd yn chwarae i’r Scarlets y penwythnos yma yng Nghwpan yr LV.

Roedd disgwyl y byddai Davies allan o ddwy gêm gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth, yn erbyn yr Eidal ac Iwerddon, o leiaf – ond mae’n ymddangos fel ei fod wedi gwella’n gynt na’r disgwyl.

Nid yw wedi cael ei ychwanegu i garfan Cymru eto, gyda Gatland yn gobeithio y caiff rhywfaint o funudau ar y cae i’r Scarlets yn gyntaf, ond mae’n bosib y gall ymuno â’r tîm ar gyfer y trip i Ddulyn.

“Dyw Jonathan ddim rhy bell i ffwrdd,” cadarnhaodd Gatland. “Mae wedi bod yn ymarfer gyda ni, ac rydyn ni’n hapus gyda’r cynnydd mae e wedi’i wneud.

“Mae’n hwb mawr i ni ei fod e yn ôl, hyd yn oed os mai dim ond rygbi rhanbarthol y bydd e’n chwarae’r penwythnos yma.”

Sam yn holliach

Dywedodd Gatland fod Warburton wedi bod yn ymarfer yn dda yn ystod yr wythnos, a’i fod wedi bod yn hyfforddi yn safle’r wythwr hefyd er mwyn ychwanegu at ddyfnder y garfan yn y rheng ôl.

Roedd Gethin Jenkins hefyd yn agos at fod yn holliach o’i anaf ar gyfer y gêm agoriadol, yn ôl yr hyfforddwr, ond fe benderfynwyd peidio â chymryd y risg gyda’r prop.

“Roedden ni’n teimlo fel ein bod ni eisiau rhoi wythnos arall iddo [Jenkins], er mwyn rhoi cyfle iddo wella,” meddai Gatland.

Priestland yn ddewis anodd

Rhys Priestland sydd wedi cael ei ddewis fel y maswr ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn o flaen Dan Biggar.

Dyw Biggar ddim hyd yn oed ar y fainc, gyda James Hook yn sicrhau’i le unwaith eto oherwydd ei allu chwarae sawl safle yn y cefn.

Ac fe gyfaddefodd Gatland fod crysau rhif 9 a 10 yn parhau i greu penbleth iddo, gyda Rhys Webb hefyd wedi rhoi pwysau ar Mike Phillips yn safle’r mewnwr.

“Mae yna rywfaint o bwysau arno [Rhys] i fynd allan a chwarae’n dda,” meddai Gatland. “Rydyn ni’n gwybod pa mor dda mae Biggar wedi bod yn gwneud, a pha mor ddibynadwy yw e.

“Mae Rhys Webb wedi bod yn ymarfer yn hynod o dda, ac roedd hi’n ddewis anodd i ni ar gyfer y crys rhif naw.”