Kenwyne Jones
Mae Caerdydd wedi cadarnhau’r prynhawn yma eu bod wedi arwyddo’r ymosodwr Kenwyne Jones o Stoke, gyda Peter Odemwingie yn symud i’r cyfeiriad arall i ymuno â’r Potters.

Mae’r clwb yn disgwyl i’r FA gadarnhau fod y gwaith papur mewn trefn i arwyddo Jones, gan olygu na fydd ar gael i wynebu Man United heno.

Ei gyfle cyntaf felly i fod yng ngharfan yr Adar Gleision fydd ar y penwythnos pan maen nhw’n herio Norwich.

Mae Odemwingie wedi gadael Caerdydd chwe mis yn unig ar ôl iddo gael ei arwyddo gan y cyn-reolwr Malky Mackay.

Nid yw Caerdydd wedi cadarnhau os oedd ffi wedi’i dalu rhyngddyn nhw a Stoke wrth i’r ddau ymosodwr gyfnewid clybiau.

Arwyddodd Kenwyne Jones, sy’n wreiddiol o Drinidad a Tobago, i Southampton yn 2004 gan sgorio 19 gôl mewn 71 ymddangosiad, cyn symud i Sunderland yn 2007.

Rhwydodd 26 gôl mewn 94 gêm yn ystod ei dair blynedd yng ngogledd ddwyrain Lloegr, cyn symud i Stoke yn 2010.

Ond ar ôl rhwydo 13 gwaith yn unig mewn 88 ymddangosiad i’r Potters, a chael ei hun allan o’r tîm yn aml, fe fydd yn croesawu cyfle ffres yng Nghaerdydd.