Er iddo gael ei gysylltu gyda throsglwyddiad i Fryste, mae Ryan Jones yn chwarae i’r Gweilch heno yn erbyn Leinster, er iddo golli’r ddwy gêm ddiwethaf oherwydd anaf.

Mae’r Gweilch wedi cynnwys y naw chwaraewr sydd ganddyn nhw yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Er nad oes gobaith gan y Gweilch o gyrraedd rownd nesaf y Cwpan Heineken mae’r prif hyfforddwr Steve Tandy wedi dweud y bydd ei dîm yn gystadleuol iawn heno.

‘‘Mae’r bechgyn yn edrych ymlaen at y gêm, ac mae’r gêm rhwng y Gweilch a Leinster bob amser yn bwysig,’’ meddai Tandy.

Bydd Sam Lewis, Richard Fussel, Joe Bearman, Ashley Beck, Tom Isaacs a’r mewnwr Tito Tebaldi yn colli’r gêm oherwydd anafiadau.

Ar ôl llawdriniaeth ar ei galon ym mis Hydref bydd bachwr Iwerddon Richardt Strauss yn dechrau ar y fainc i Leinster.

Tîm y Gweilch

Olwyr – Sam Davies, Jeff Hassler, Jonathan Spratt, Ben John, Aisea Natoga, Dan Biggar a Rhys Webb.

Blaenwyr – Ryan Bevington, Richard Hibbard, Adam Jones, Alun Wyn Jones (Capten), Ian Evans, Tyler Ardron, Justin Tipuric a Ryan Jones.

Eilyddion – Scott Baldwin, Marc Thomas, Dan Suter, Lloyd Peers, James King, Morgan Allen, Tom Habberfield a Matthew Morgan.