Mae ymosodwr Caerdydd Frazier Campbell yn credu y gall tîm y brifddinas achosi dipyn o sioc yn yr Uwch Gynghrair drwy guro Manchester City am yr ail waith y tymor hwn.

Cafodd Campbell gêm dda iawn wrth rwydo ddwywaith gartref yn erbyn tîm Manuel Pellegrini nôl ym mis Awst.  Er hynny mae tasg anodd gan dîm Ole Gunnar Solksjaer oddi cartref yfory gan fod Manchester City  wedi ennill pob un o’i deg gêm gartref yn Stadiwm Ethiad ac wedi sgorio 99 o goliau y tymor hwn cyn belled.

‘‘Yr ydym yn barod am y gêm gan obeithio cael y tri phwynt.  Bydd yn rhaid i ni chwarae yn dda fel tîm gan amddiffyn yn gadarn a chymryd pob cyfle,’’ meddai Campbell.

Mae rheolwr Caerdydd yn disgwyl her a hanner.

‘‘Rydym yn edrych ymlaen at yr her sydd o’n blaenau.  Byddwch yn cael ein profi i’r eithaf yn yr Ethiad, ond mae’n rhaid mwynhau’r profiad,’’ dywedodd Solksjaer.

Mae’n debyg na fydd Jordan Mutch ar gael oherwydd anaf ond mae Craig Bellamy yn barod i ddechrau’r gêm yn erbyn ei hen glwb.