Mogliano 12–24 Dreigiau Casnewydd Gwent

Daeth ymgyrch y Dreigiau yn Ewrop am y tymor hwn i ben gyda buddugoliaeth yn y Stadio Maurizio Quaggia yn erbyn Mogliano yng ngrŵp 2 Cwpan Amlin nos Iau.

Roedd y Cymry ar ei hôl hi ar yr egwyl, ond roedd dau gais mewn pedwar munud yn yr ail hanner gan Wayne Evans a Ross Wardle yn ddigon i’w hennill hi i’r ymwelwyr.

Er i’r Eidalwyr ddechrau’r gêm ar waelod y grŵp ac heb bwynt, roeddynt ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf yn dilyn dwy gic gosb gan Niccolo Fidalti.

Ac er i Steffan Jones daro’n ôl gyda thri phwynt i’r ymwelwyr, Fidalti a Mogliano a gafodd y gair olaf cyn yr egwyl wrth iddo ychwanegu cic gosb arall yn dilyn trosedd a cherdyn melyn prop y Dreigiau, Nathan Buck.

Roedd y Dreigiau yn well wedi’r egwyl ac roeddynt yn gyfartal wedi deuddeg munud diolch i ddwy gic gan Jones.

Yna, roedd dau gais cyflym hanner ffordd trwy’r hanner yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth. Croesodd yr eilydd fewnwr, Wayne Evans, i ddechrau ychydig funudau wedi iddo ddod i’r cae, ac ychwanegodd y canolwr, Ross Wardle, yr ail ar yr awr.

Cyfnewidiodd Fidalti a Kris Burton gic gosb yr un yn y chwarter olaf ond cadwodd y Dreigiau eu gafael ar fuddugoliaeth gymharol gyfforddus.

Gorffen yn drydydd yw hanes y Dreigiau yn nhabl grŵp 2 Cwpan Amlin er gwaethaf y fuddugoliaeth hon, trydydd y rhanbarth mewn chwe gêm yn y gystadleuaeth.

.

Mogliano

Ciciau Cosb: Niccolo Fidalti 14’, 22’, 40’, 65’

Cardiau Melyn: Edoardo Candiago 79’, Thorleif Halvorsen 79’

.

Dreigiau

Ceisiau: Wayne Evans 57’, Ross Wardle 60’

Trosiad: Kris Burton 60’

Ciciau Cosb: Steffan Jones 27’, 42’, 52’, Kris Burton 76’

Cerdyn Melyn: Nathan Buck 39’