Dyw Elfyn Evans ddim wedi cael dechrau ffôl o gwbl i’w dymor cyntaf yn gyrru ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd, gan orffen yn chweched parchus ar ôl ei ddiwrnod cyntaf yn Monte Carlo.
Dechreuodd Evans yn araf yn nwy gymal cyntaf y rali bore yma, gan orffen yn 14eg ac yna’n 7fed.
Ond yn y trydydd cymal yn Montauban sur L’Ouveze llwyddodd Evans i gipio’r ail safle yn ei Ford Fiesta, hanner eiliad yn unig y tu ôl i’r enillydd Bryan Bouffier.
Roedd y canlyniad hwnnw’n ddigon i godi’r Cymro i’r pumed safle ar gyfer y rali gyfan erbyn amser cinio.
Yn anffodus iddo ni lwyddodd i ailadrodd y perfformiad hwnnw yn nhri chymal y prynhawn, gan orffen yn 8fed, 9fed ac 8fed – a disgyn un safle i chweched yn gyfan gwbl.
Bouffier o Ffrainc sydd yn arwain y rali ar ôl holl gymalau heddiw, gyda’r gŵr o Ogledd Iwerddon Kris Meeke yn ail, 38.8 eiliad y tu ôl iddo.
Y cyn-yrrwr Fformiwla 1 Robert Kubica sy’n drydydd, llai nag eiliad y tu ôl i Meeke, gyda’r Ffrancwr Sebastien Ogier a Mads Ostberg o Norwy yn dilyn.
Ar hyn o bryd mae Elfyn Evans dros funud a hanner y tu ôl i Bouffier ar y brig, ac 18 y tu ôl i Ostberg sy’n bumed – ond mae ganddo fwlch sylweddol o dros 42 eiliad rhyngddo ef a Jari-Matti Latvala sy’n seithfed.
Mae hefyd o flaen y gyrrwr arall M-Sport, Mikko Hirvonen, sy’n wythfed a dros funud y tu ôl iddo o ran amser.
Bydd y rali’n parhau ym Monte Carlo dros y ddau ddiwrnod nesaf.