Gweilch 17–29 Northampton

Roedd George North ar dân wrth i Northampton drechu’r Gweilch yng ngrŵp 1 Cwpan Heineken ar y Liberty brynhawn Sul.

Sgoriodd y Cymro un cais, a chreu un arall wrth i dymor siomedig y Gweilch yn Ewrop barhau.

Cafodd y Gweilch eu cosbi am eu diffyg disgyblaeth mewn hanner cyntaf di gais. Sgoriodd Northampton ddeuddeg pwynt gyda chiciau cosb o droed Stephen Myler a bu rhaid i’r tîm cartref chwarae deg munud olaf yr hanner gyda deg dyn yn dilyn cerdyn melyn Ryan Bevington.

Tri phwynt o droed Dan Biggar oedd unig ymateb y Gweilch, er mai’r Cymry a ddaeth agosaf at sgorio cais yn y deugain munud agoriadol. Fe wnaeth Jeff Hassler dirio ddau funud cyn yr egwyl ond penderfynodd y dyfarnwr fideo fod pas Justin Tipuric iddo ymlaen.

3-12 i Northampton ar yr egwyl felly a dechreuodd yr ail hanner gyda chis gwych i’r ymwelwyr. Derbyniodd North y bêl ar ei linell 22 medr ei hun cyn curo dau daclwr a rhedeg yr holl ffordd i sgorio yn y gornel.

Roedd ymateb y Gweilch yn un da ac roeddynt o fewn sgôr i’w gwrthwynebwyr gyda chwarter awr i fynd diolch i gais Rhys Webb. Roedd ffug bas syml yn ddigon i alluogi’r mewnwr i blymio drosodd o dan y pyst wedi cyfnod da o bwyso gan y Gweilch.

Ond Northampton a gafodd y pwyntiau nesaf wrth i George Pisi groesi yn dilyn gwaith da ganddo ef a’i gyd ganolwr, Luther Burrell.

Ymatebodd y tîm cartref yn dda eto wrth i Alun Wyn Jones blymio trwy bentwr o gyrff i dirio ail gais y Gweilch ond diflannodd unrhyw lygedyn o obaith wrth iddynt ildio eto bron yn syth o’r ail ddechrau. Lee Dickson oedd y sgoriwr y tro hwn yn dilyn rhediad cadarn arall gan seren y gêm, North.

Nid y perfformiad gwaethaf gan y Gweilch ond canlyniad siomedig arall mewn tymor siomedig arall yn Ewrop i ranbarth cryfaf Cymru.

.

Gweilch

Ceisiau: Rhys Webb 63’, Alun Wyn Jones 74’

Trosiadau: Dan Biggar 63’, 74’

Cic Gosb: Dan Biggar 16’

Cardiau Melyn: Ryan Bevington 30’, Aisea Natoga 71’

.

Northampton

Ceisiau: George North 41’, George Pisi 71’, Lee Dickson 76’

Trosiad: Lee Dickson 76’

Ciciau Cosb: Stephen Myler 2’, 14’, 28’, 32’