Craig Bellamy
Fe all Craig Bellamy chwarae rhan allweddol ym mrwydr Caerdydd i aros yn yr Uwch Gynghrair, yn ôl rheolwr newydd y clwb, Ole Gunnar Solskjaer.
Mae’r Adar Glas mewn safle peryglus ar waelodion yr Uwch Gynghrair ar ôl colli 2-0 gartref i West Ham ddydd Sadwrn.
Fe ymddangosodd cyn-flaenwr Cymru, sy’n 34 oed ac wedi bod yn dioddef trafferthion gyda’i ben-glin, am y tro cyntaf ers deufis fel eilydd yn y gêm.
Ar ôl perfformiad siomedig gan Gaerdydd yn yr hanner cyntaf, fe wnaeth pethau fywiogi cyn gynted ag y daeth Bellamy ar y maes, gan greu cyfleoedd i Mark Hudson a Fraizer Campbell.
Gobaith Solskjaer yw y bydd yn gallu ei berswadio i barhau gyda’r clwb ar ôl yr haf.
“Fe all wneud gwahaniaeth mawr i’r cefnogwyr ac i’r tîm,” meddai Solskjaer. “Roeddech chi’n gallu clywed cymaint y mae ar y cefnogwyr ei eisiau yn y tîm, ac mae arna i ei eisiau yn fy nhîm, gan ei fod yn chwaraewr sydd wedi cael y profiad o chwarae yn yr Uwch Gynghrair ar y brig ac ar y gwaelod.
“Mae ganddo’r profiad ac ro’n i wrth fy modd gyda’r 45 munud a chwaraeodd.”
‘Dim panig’
Er bod Caerdydd bellach yn nhri safle isaf yr Uwch Gynghrair am y tro cynta’r tymor yma, mae Solskjaer yn mynnu nad oes lle i bryderu.
“Does dim panig,” meddai. “Doeddwn i ddim yn disgwyl i hyn fod yn hawdd – dyma’r Uwch Gynghrair ac mae llawer o waith i’w wneud.
“Dim ond wythnos ydyn ni wedi’i chael, ac fe wyddon ni fod gennym ddigon o waith i’w wneud. Maen nhw’n griw gwych o fechgyn, ac fe fyddwn yn ailgydio ynddi ac yn ymarfer yn galed.
“Mae hi’n gynghrair dynn, gyda dim ond chwe phwynt o’r gwaelod i’r degfed safle.”