Man U 2–0 Abertawe

Methodd Abertawe ag ail adrodd eu camp o guro Man U yn Old Trafford wrth herio’r pencampwyr yn yr Uwch Gynghrair nos Sadwrn.

Enillodd yr Elyrch ym Manceinion yn nhrydedd rownd y Cwpan FA yr wythnos diwethaf ond y tîm cartref aeth â hi’r wythnos hon diolch i goliau Antonio Valencia a Danny Welbeck yn gynnar yn yr ail hanner.

Rheolodd Abertawe’r meddiant yn ôl eu harfer ond Man U oedd fwyaf bygythiol o flaen gôl.

Creodd y tîm cartref gyfleoedd da gan drosi dau ohonynt yn goliau yn chwarter awr cyntaf yr ail hanner.

Rhwydodd Valencia’r gyntaf ddau funud wedi’r egwyl yn dilyn gwaith da ar yr asgell gan Adnan Januzaj.

Roedd yr asgellwr ifanc yng nghanol yr ail gôl toc cyn yr awr hefyd. Ef greodd y cyfle i Patrice Evra ergydio a churodd ei gynnig yntau Gerhard Tremmel yn y gôl diolch i gyffyrddiad Welbeck.

Mae Abertawe yn aros yn y trydydd safle ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair er gwaethaf y canlyniad.

.

Man U

Tîm: de Gea, Rafael, Evra (Büttner 79′), Carrick, Smalling, Vidic, Antonio Valencia, Fletcher, Welbeck (Hernández 86′), Januzaj, Kagawa

Goliau: Antonio Valencia 47’, Welbeck 59’

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Rangel, Davies, Cañas (Chico 17′), Amat, Williams, Pozuelo, Britton, Bony, Shelvey (Alvaro 63′), Routledge

Cardiau Melyn: Rangel 37’, Bony 45’

.

Torf: 73,035