Y Bala 0–0 Caerfyrddin

(Caerfyrddin yn ennill wedi C.O.S.)

Cododd Caerfyrddin Gwpan Word am yr ail flwyddyn yn olynol ar Goedlan y Parc, Aberystwyth, brynhawn Sadwrn, a hynny, fel y llynedd, yn dilyn ciciau o’r smotyn.

Roedd angen ciciau o’r smotyn ar yr Hen Aur i drechu’r Seintiau Newydd mewn gêm gyffrous ar Barc Latham ddeuddeg mis yn ôl, ac roedd yn rhaid iddynt fod yn gywir o ddeuddeg llath unwaith eto eleni i setlo gêm dipyn fwy diflas yn erbyn y Bala o flaen camerâu Sgorio.

Y 90 Munud

Ar wahân i ddau hanner cyfle cynnar i Christian Doidge ychydig iawn o gyffro a gafwyd mewn hanner cyntaf di fflach.

Roedd pethau fymryn yn well wedi’r egwyl gyda’r Bala yn mwynhau dipyn o’r meddiant ond yr Hen Aur yn creu’r cyfleoedd i gyd.

Cafodd Doidge ei atal gan Ashley Morris yn y gôl a bu Luke Bowen a Liam Thomas yn wastraffus ar ôl creu dau gyfle clir i’w hunain gyda sgiliau da yn y cwrt cosbi.

Bu bron i Doidge ei hennill hi bum munud o ddiwedd y naw deg hefyd gydag ymdrech din dros ben wych ond llwyddodd Morris i’w harbed yn gyfforddus.

Amser Ychwanegol a Chiciau o’r Smotyn

Prin iawn oedd y cyfleoedd yn yr hanner awr ychwanegol, ond fe gafodd Morris ei weithio eto pan ergydiodd eilydd Caerfyrddin, Keyon Reffel, yn dilyn rhediad da.

Doedd dim amdani felly ond ciciau o’r smotyn. Roedd angen arwr, a gôl-geidwad Caerfyrddin, Steve Cann oedd hwnnw. Mae’n syndod nad oedd Cann wedi disgyn i gysgu yn ystod y ddwy awr flaenorol ond roedd yn ddigon effro i arbed tri allan o bedwar cynnig y Bala o ddeuddeg llath.

Er i Ian Sheridan sgorio cic agoriadol y Bala fe gafodd Conall Murtagh, Ryan Valentine a Dave Morley i gyd eu hatal gan Cann yn y gôl.

Gwella wrth fynd yn eu blaenau a wnaeth Caerfyrddin ar y llaw arall gyda Doidge, Paul Fowler a Craig Hanford yn rhwydo yn dilyn methiant Matty Collins gyda’r gic gyntaf.

Ffordd greulon i’r Bala golli’r rownd derfynol ond go brin fod chwaraewyr Caerfyrddin yn poeni gormod am hynny wrth dderbyn y cwpan gan reolwr Cymru, Chris Coleman.

Ymateb

Rheolwr y Bala, Colin Caton:

“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi chwarae’n dda iawn. Wnaethom ni ddim creu llawer o gyfleoedd ond dwi’n meddwl mai ni oedd yr unig dîm i geisio chwarae pêl droed. Fe aethon nhw am y bêl hir, ein marcio ni’n dynn yn y cefn a sbwylio’r gêm a dweud y gwir.”

Rheolwr Caerfyrddin, Mark Aizlewood:

“Dwi’n hapus iawn. Mae’n greulon i’r Bala golli’r gêm ar giciau o’r smotyn ond s’dim ots, y llyfrau hanes sydd yn cyfri ac mae Caerfyrddin wedi ennill y cwpan eto.”

“Dwi’n hapus iawn gyda’r chwaraewyr, roedd eu hysbryd yn arbennig iawn a’u ffitrwydd yn arbennig iawn hefyd.”

.

Y Bala

Tîm: Morris, S. Jones, Valentine, Morley, Davies, Murtagh, Connolly, M. Jones, Brown, Sheridan, Smith (Codling 119’)

Cardiau Melyn: Smith 62’, Sheridan 87’

.

Caerfyrddin

Tîm: Cann, C. Thomas, Hanford, Evans, K. Thomas, Collins, Fowler, Bassett (Jenkins 78’), L. Thomas (Reffel 69’), Bowen, Doidge

Cardiau Melyn: Bowen 9’, Fowler 90’, Corey Thomas 95’, Hanford 106’

.

Torf: 464