Toulon 43–20 Gleision Caerdydd
Rhoddwyd diwedd ar obeithion y Gleision o gyrraedd wyth olaf Cwpan Heineken wrth iddynt golli yn erbyn Toulon yn yr Allianz Riviera brynhawn Sadwrn.
Er bod buddugoliaeth i’r Cymry yn anhebygol byddai pwynt bonws wedi bod o gymorth i’r Gleision yn y gêm grŵp 2, ond roedd pac y Ffrancwyr yn rhy gryf o lawer wrth iddynt ennill y gêm yn gyfforddus yn y diwedd diolch i dri chais cosb!
Hanner Cyntaf
Roedd Toulon ar y blaen wedi llai na munud diolch i gic gosb o droed Jonny Wilkinson, a dyblodd y Sais y fantais yn fuan wedyn yn dilyn trosedd honedig yn ardal y dacl gan Chris Czekaj – trosedd a arweiniodd at gerdyn melyn i’r asgellwr.
Brwydrodd pedwar dyn ar ddeg y Gleision yn ôl serch hynny ac roeddynt yn gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner diolch i chwe phwynt gan Leigh Halfpenny.
Adferodd Wilkinson chwe phwynt o fantais Toulon gyda dwy gic arall wedi hynny cyn i’r Gleision fynd ar y blaen gyda chais cyntaf y gêm. Cafodd cic Drew Mitchell ei tharo i lawr ac roedd y clo, Filo Paulo, wrth law i sgorio’r cais, 12-13 yn dilyn trosiad Halfpenny.
Ond y Ffrancwyr oedd ar y blaen ar hanner amser wedi i Wilkinson lwyddo gyda’i bumed cic gosb.
Ail Hanner
Nid ciciau cosb oedd yn effeithio’r Gleision yn yr ail hanner ond ceisiau cosb! Ildiodd yr ymwelwyr ddau yn chwe munud cyntaf yr ail hanner, y cyntaf yn deillio o sgrym a’r ail o sgarmes symudol wrth i bac Toulon ddechrau rheoli.
Roedd y gêm fwy neu lai drosodd ddau funud yn ddiweddarach wedi i’r asgellwr, David Smith, groesi am drydydd cais y tîm cartref i roi tri phwynt ar hugain rhwng y ddau dîm yn dilyn cic Wilkinson.
Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Cymry gipio pwynt bonws pan sgoriodd y prop, Sam Hobbs, ail gais ddeuddeg munud o’r diwedd.
Ond diflannodd y gobaith hwnnw pan redodd y dyfarnwr o dan y pyst am y trydydd tro yn dilyn sgrym gref arall gan Toulon yn y munud olaf. Ychwanegodd Wilkinson ddau bwynt arall i ymestyn ei gyfanswm personol ef i dri phwynt ar hugain.
Mae’r Gleision yn aros yn ail yng ngrŵp 2 er gwaethaf y canlyniad ond lle yng Nghwpan Amlin yw unig obaith y Cymry bellach os am barhau â’u taith yn Ewrop y tymor hwn.
.
Toulon
Ceisiau: Cais Cosb 42’, 46’, 80’ David Smith 48’
Trosiadau: Jonny Wilkinson 42’, 46’, 48’, 80’
Ciciau Cosb: Jonny Wilkinson 1’, 7’, 29’, 31’, 38’
.
Gleision
Ceisiau: Filo Paulo 33’, Sam Hobbs 69’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 33’, 69’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 12’, 17’
Cardiau Melyn: Chris Czekaj 7’, Ellis Jenkins 46’, Robin Copeland 79’