Wrecsam 0–0 Halifax

Gêm gyfartal ddi sgôr a gafodd Wrecsam wrth groesawu Halifax i’r Cae Ras yn Uwch Gynghrair Skrill brynhawn Sadwrn.

Ac efallai fod pwynt yn ganlyniad ddigon derbyniol i dîm Andy Morrell gan ystyried iddynt chwarae’r ail hanner i gyd gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Brett Ormerod ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Ormerod a gafodd gyfle gorau’r Dreigiau yn yr hanner cyntaf cyn i’r hen ben golli ei ben a derbyn cerdyn coch am ymladd.

Prin oedd y cyfleoedd yn yr ail hanner hefyd gyda Andy Bishop yn penio cyfle gorau Wrecsam heibio’r postyn.

Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn y trydydd safle ar ddeg yn nhabl y Gyngres.

.

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Ashton, Artell, Tomassen, Harris, Hunt, Anyinsah (Bishop 66′), Carrington, Clarke, Ogleby (Bailey-Jones 74′), Ormerod

Cardiau Melyn: Ashton 6’, Artell 55’, Bailey-Jones 78’

Cerdyn Coch: Ormerod 45’

.

Halifax

Tîm: Glennon, Pearson, Ainge, McManus, Maynard, Roberts, Challinor, Smith (McReady 81′), Gregory, Wilson, Holsgrove (Gray 64′)

.

Torf: 3,214