Accrington Stanley 3–3 Casnewydd

Cipiodd Lee Minshull bwynt i Gasnewydd gyda gôl hwyr mewn gêm gyffrous yn erbyn Accrington Stanley yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Newidiodd yr oruchafiaeth sawl gwaith wrth i’r ddau dîm rannu chwe gôl ar y Crown Ground, ond roedd hi’n rhy hwyr i ddim byd newid wedi i Minshull ei gwnued hi’n dair yr un yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Rhoddodd cic rydd Robbie Willmott Gasnewydd ar y blaen wedi dim ond deg munud ond roedd Accrington yn gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner diolch i gôl Peter Murphy.

Y tîm cartref oedd ar y blaen ar hanner amser diolch i beniad Kai Naismith o groesiad Murphy funud cyn yr egwyl.

Unionodd Ryan Burge y sgôr ugain munud o’r diwedd gydag ergyd daclus yn dilyn gwaith creu Connor Washington, ond roedd Accrington yn ôl ar y blaen ddau funud o ddiwedd y naw deg pan beniodd Murphy ei ail ef a thrydedd ei dîm i gefn y rhwyd.

Wnaeth yr ymwelwyr o dde Cymru ddim rhoi’r ffidl yn y to serch hynny ac fe achubwyd pwynt pan rwydodd Minshull groesiad Willmott yn yr eiliadau olaf.

Mae Casnewydd yn llithro allan o’r safleoedd ail gyfle o ganlyniad i’r gêm gyfartal. Maent bellach yn wythfed yn nhabl yr Ail Adran.

.

Accrington Stanley

Tîm: Bettinelli, Hunt, Naylor (Wilson 81′), Murphy, Aldred, Winnard, Naismith, Joyce, Odejayi, Webber (Hatfield 81′), Mingoia

Goliau: Murphy 23’, 88’ Naismith 44’

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Pipe, Jackson, Sandell, Yakubu, Naylor, Minshull, Burge, Howe, Washington (Jolley 79′), Willmott

Goliau: Willmott 11’, Burge 71’, Minshull 90’

Cardiau Melyn: Howe 28’, Pipe 90’

.

Torf: 1,318