Caerdydd 0–2 West Ham

Cafodd Caerdydd eu curo gan ddeg dyn West Ham yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn wrth i’w rhediad digalon yn yr Uwch Gynghrair barhau dan ofal Ole Gunnar Solskjær.

Rhoddodd Carlton Cole yr ymwelwyr ar y blaen toc cyn yr egwyl a sicrhaodd Mark Noble y fuddugoliaeth yn y munudau olaf wedi i James Tomkins gael ei anfon o’r cae i’r ymwelwyr.

Bu bron i Gaerdydd fynd ar y blaen ar ddau achlysur yn yr hanner cyntaf. Gwyrodd ergyd Kim Bo-kyung yn erbyn y trawst a gwnaeth Adrián yn y gôl i West Ham yn dda i atal cynnig Craig Noone.

Ond yr ymwelwyr aeth ar y blaen dri munud cyn yr egwyl pan anelodd Cole groesiad Matthew Jarvis i gefn y rhwyd.

Bu rhaid i Adrián fod ar ei orau eto yn yr ail hanner i atal Fraizer Campbell ac roedd West Ham i lawr i ddeg dyn am y deunaw munud olaf yn dilyn ail gerdyn melyn i Tomkins am drosedd ar Campbell.

Roedd yn rhaid i’r Adar Gleision bwyso am gôl yn y munudau olaf felly ond cawsant eu cosbi yn yr amser anafiadau wrth i Noble gwblhau gwrthymosodiad gydag ail gôl yr Hammers.

Mae’r canlyniad yn codi West Ham dros Gaerdydd yn y tabl, wrth i’r tîm o Gymru lithro i safleoedd y gwymp. Maent bellach yn ddeunawfed gyda deunaw pwynt.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, John, Whittingham, Caulker, Hudson (Cornelius 78′), Noone, Medel (Wolff Eikrem 65′), Campbell, Kim, Odemwingie (Bellamy 45′)

Cerdyn Melyn: Medel 45’

.

West Ham

Tîm: Adrián, Demel (McCartney 17′), Rat, Taylor, Johnson , Tomkins, Downing, Noble, C. Cole (Carroll 72′), Collison (Diarra 75′), Jarvis

Goliau: C. Cole 42’, Noble 90’

Cardiau Melyn: McCartney 50’, Tomkins 61’, Johnson 70’, Diarra 90’

Cerdyn och: Tomkins 72’

.

Torf: 27,750