Dreigiau Casnewydd Gwent 13–30 Caerfaddon
Mae’r Dreigiau allan o’r Cwpan Amlin ar ôl colli gartref yn erbyn Caerfaddon ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Roedd pedwar cais hanner cyntaf yr ymwelwyr yn ddigon i ddiffodd tân y Dreigiau a sicrhau na fydd y rhanbarth o Gymru’n gorffen ar frig grŵp 2.
Hanner Cyntaf
Roedd y gêm fwy neu lai drosodd wedi deugain munud diolch i geisiau hanner cyntaf yr ymwelwyr.
Daeth dau o’r rheiny yn y chwarter awr cyntaf wrth i’r mewnwr, Micky Young, a’r asgellwr, Tom Biggs, groesi. Llwyddodd Tom Heathcote gydag un trosiad ac ychwanegu cic gosb hefyd wrth i Gaerfaddon sefydlu pymtheg pwynt o fantais.
Bu rhaid aros bron i hanner awr am bwyntiau cyntaf y Dreigiau – cic gosb o droed yr eilydd faswr, Steffan Jones.
Ymatebodd Caerfaddon gyda dau gais arall i sicrhau pwynt bonws cyn yr egwyl. Cyfle’r rheng ôl i ymuno yn yr hwyl oedd hi yn awr gyda Mathew Gilbert a Leroy Houston yn tirio.
Llwyddodd Jones gyda chic gosb arall cyn yr egwyl ond roedd gan yr ymwelwyr fantais gyfforddus wrth anelu am yr ystafell newid, 6-27.
Ail Hanner
Roedd y Dreigiau yn well yn yr ail hanner ac roeddynt yn ôl o fewn dwy sgôr wedi deg munud diolch i gais y blaenasgellwr, Nick Cudd, a throsiad Jones.
Ond gwnaeth Heathcote yn siŵr fod digon o fwlch yn aros rhwng y ddau dîm yn fuan wedyn gyda chic gosb.
Felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i’r Dreigiau adfer ychydig o hunan barch, ond nid oedd hynny’n ddigon i’w cadw yn y gystadleuaeth. Maent yn aros yn drydydd yn nhabl grŵp 2 gyda dim ond un gêm ar ôl.
.
Dreigiau
Cais: Nick Cudd 50’
Trosiad: Steffan Jones 50’
Ciciau Cosb: Steffan Jones 28’, 39’
.
Caerfaddon
Ceisiau: Micky Young 7’, Tom Biggs 15’, Matthew Gilbert 29’, Leroy Houston 35’
Trosiadau: Tom Heathcote 7’, 29’
Ciciau Cosb: Tom Heathcote 11’, 54’