Racing Metro 13–19 Scarlets

Cafwyd perfformiad gwych gan y Scarlets yn y Stade Yves-du-Manoir nos Wener wrth i’r rhanbarth o Gymru sicrhau buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Racing Metro yng ngrŵp 4 Cwpan Heineken.

Gosododd y blaenwyr sylfaen cadarn, ciciodd Rhys Priestland y pwyntiau a chyfrannodd Kristian Phillips gais unigol gwych mewn buddugoliaeth haeddianol i Fois y Sosban.

Hanner Cyntaf

Ciciodd Priestland yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond pedwar munud cyn i un o gyn chwaraewyr y Scarlets daro’n ôl i Racing.

Mewnwr Cymru, Mike Phillips, groesodd am gais cyntaf y gêm, yn plymio drosodd o un medr yn dilyn symudiad da gan y tîm cartref. Roedd hi’n 7-3 yn dilyn trosiad Jonny Sexton ac felly yr arhosodd hi am ran helaeth o’r hanner cyntaf.

Ond tyfodd hyder yr ymwelwyr yn ystod y deugain munud cyntaf ac roeddynt yn ôl o fewn pwynt funud cyn yr egwyl diolch i ail gic gosb Priestland. Racing a gafodd air olaf yr hanner cyntaf serch hynny gyda Sexton yn adfer y pedwar pwynt o fantais gyda chic olaf yr hanner.

Ail Hanner

Dechreuodd y Scarlets yr ail gyfnod yn dda a daethant yn agos at gais ar ddau achlysur yn y munudau agoriadol. Methodd Fraizer Climo ddal y bêl gyda’r gwyngalch yn aros ac adlamodd cic letraws Priestland yn angharedig i John Barclay yn dilyn rhyng-gipiad Aled Thomas.

Ond roedd y Scarlets ar y blaen ar yr awr diolch i ddwy gic gosb arall gan Priestland, yr ail yn dod yn dilyn sgrym gref gan y blaenwyr.

Ciciodd Sexton y Ffrancwyr yn ôl ar y blaen am ychydig wedi hynny cyn i Kristian Phillips adfer mantais yr ymwelwyr mewn steil. Casglodd yr asgellwr gic lac cyn curo sawl amddiffynnwr wrth redeg y bêl yn ôl at y llinell gais. Cais cofiadwy i’r asgellwr a chwe phwynt o fantais i’r Scarlets yn dilyn trosiad Priestland.

Bu rhaid i Fois y Sosban amddiffyn yn ddewr yn y chwarter awr olaf ond roedd gan bac y Cymry oruchafiaeth erbyn y diwedd ac roedd hynny’n ddigon iddynt gadw gafael ar y pwyntiau.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Scarlets oddi ar waelod grŵp 4, i’r trydydd safle gyda deg pwynt.

.

Racing Metro

Cais: Mike Phillips 8’

Trosiad: Jonny Sexton 8’

Ciciau Cosb: Jonny Sexton 40’, 61’

.

Scarlets

Cais: Krisyian Phillips 63’

Trosiad: Rhys Priestland 63’

Ciciau Cosb: Rhys Priestland 4’, 39’, 50’, 55’