Tom Prydie
Bydd yr asgellwr Tom Prydie yn dychwelyd i dîm y Dreigiau yfory yn erbyn Caerfaddon ar ôl bod allan gydag anaf i’w goes am fisoedd. Fe ddaw y capten Andrew Coombs yn ôl i’r tîm hefyd ar ôl colli’r gêm yn erbyn y Gleision oherwydd anaf i’w ben-glin.
Mae Dan Evans yn cadw ei le fel cefnwr. Matthew Pewtner fydd yn gwisgo crys rhif 14 gyda Tom Prydie ar yr asgell arall. Ross Wardle ac Ashley Smith fydd y canolwyr gyda Pat Leach ar y fainc. Jason Tovey fydd y maswr gyda Richie Rees yn dychwelyd fel mewnwr ar ôl bod ar y fainc yn erbyn Caerdydd.
Bydd y prop Nathan Buck yn dechrau ei ail gêm fel prop. Mae’r clo Matthew Screech yn gorfod bodloni ar le ar y fainc gan y bydd Andrew Coombs a Rob Sidoli yn dechrau yn yr ail-reng. Toby Faletau fydd yr wythwr, Nic Cudd y blaenasgellwr ochr agored a Jevon Groves y blaenasgellwr ochr dywyll.
Tîm y Dreigiau
Olwyr – Dan Evans, Matthew Pewtner, Ross Wardle, Ashley Smith, Tom Prydie, Jason Tovey a Richie Rees.
Blaenwyr – Owen Evans, T. Rhys Thomas, Nathan Buck, Andrew Coombs (Capten), Rob Sidoli, Jevon Groves, Nic Cudd a Toby Faletau.
Eilyddion – Elliot Dee, Hugh Gustafson, Dan Way, Matthew Screech, Ieuan Jones, Luc Jones, Steffan Jones a Pat Leach.