Gethin Jenkins
Bydd y prop Gethin Jenkins yn arwain Gleision Caerdydd wrth iddyn nhw herio ei gyn glwb Toulon yn y Cwpan Heineken brynhawn yfory.
Bydd Jenkins yn dechrau ei gêm gyntaf i’r rhanbarth ers mis Hydref. Mae’r Cyfarwyddwr Rygbi, Phil Davies wedi gwneud pum newid i’r tîm a dechreuodd yn erbyn Dreigiau Gwent ar ddydd Calan. Bydd y clo Chris Dicomidis yn dechrau gyda Macauley Cook yn symud i’r rheng ôl. Gareth Davies fydd yn dechrau fel maswr gan fod Rhys Patchell wedi ei anafu.
Mae Chris Czekaj ar yr asgell. Bydd Harry Robinson yn colli’r gêm oherwydd anaf. Gavin Evans fydd yn dechrau yn safle rhif 12, gan ffurfio partneriaeth â Richard Smith yn y canol.
‘‘Ni fydd Toulon yn hapus ar ôl colli yn y gynghrair yr wythnos ddiwethaf, na hefyd wedi iddyn nhw golli i ni yn gynharach yn y tymor. Mi fyddwn yn gwneud ein gorau allan yn Ffrainc ac mae agwedd y garfan yn arbennig,’’ dywedodd Phil Davies.
‘‘Mae ein gêm wedi gwella yn ystod y tymor, yr hyn sydd ein angen arnom yn aur yw sgorio mwy o geisiau,’’ ychwanegodd Davies.
Tîm y Gleision
Olwyr – Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Richard Smith, Gavin Evans, Chris Czekaj, Gareth Davies a Lloyd Williams.
Blaenwyr – Gethin Jenkins (Capten), Marc Breeze, Benoit Bourrust, Chris Dicomidis, Filo Paulo, Macauley Cook, Josh Navidi a Robin Copeland.
Eilyddion – Rhys Williams, Sam Hobbs, Scott Andrews, James Down, Ellis Jenkins, Lewis Jones, Dafydd Hewitt a Dan Fish.