Mae Scarlets Llanelli yn chwarae Racing Metro yn y Cwpan Heineken heno yn Stade Olympique Yves Du Manoir.  Pan wnaeth y ddau dîm gyfarfod ar Barc y Scarlets ym mis Hydref cafwyd gêm gyfartal 26-26.

Bydd y Scarlets yn gobeithio cael diwedd cryf i’r gystadleuaeth a cheisio ennill eto ar ôl colli tair gêm agos dros gyfnod y Nadolig.

Mae pedwar newid i’r tîm a gollodd ar y Liberty i’r Gweilch yr wythnos ddiwethaf.  Daw Aled Thomas i fewn fel cefnwr yn lle Gareth Owen, a Gareth Davies fydd yn dechrau fel mewnwr yn lle Rhodri Williams.

Bydd Johan Snyman yn dechrau fel clo ac Aaron Shingler fel blaenasgellwr yn lle George Earle a Josh Turnbull.

‘‘Mae’n bwysig ein bod yn gorffen y gystadleuaeth yn gryf, mi wnaethom ddechrau yn dda a byddem yn hoffi gorffen yr un modd,” meddai Simon Easterby, prif hyfforddwr y Scarlets.

“Bydd y pythefnos nesaf yn bwysig i ni.  Mae angen i ni gael ein hyder yn ôl a hefyd dechrau ennill gemau eto.  Yr ydym wedi gwneud gormod o gamgymeriadau yn ein gemau diwethaf.  Mae’n rhaid i ni ddysgu ennill y gemau tynn.’

Tîm y Scarlets

Olwyr – Aled Thomas, Kristian Phillips, Nick Reynolds, Scott Williams, Frazier Climo, Rhys Priestland a Gareth Davies.

Blaenwyr – Phil John, Emyr Phillips, Samson Lee, Jake Ball, Johan Snyman, Aaron Shingler, John Barclay a Rob McCusker.

Eilyddion – Kirby Myhill, Rob Evans, Jacobie Adriaanse, Richard Kelly, Josh Turnbull, Rhodri Williams, Gareth Maule a Jordan Williams.