Bydd Undeb Rygbi Cymru yn cwrdd heddiw i drafod ymhellach yr anghydfod rhyngddyn nhw a’r rhanbarthau.

Hyd yn hyn nid yw’r rhanbarthau wedi arwyddo unrhyw gytundeb gyda’r Undeb.  Mae’r Undeb wedi awgrymu’r gallen nhw ffurfio timau newydd os yw’r rhanbarthau yn dymuno chwarae yng nghynghrair Lloegr.

Fe allai cryfder y rhanbarthau gael ei brofi os yw’r Undeb yn cynnig eu talu ar sail nifer y chwaraewyr rhyngwladol sydd ganddyn nhw.  O dan y cytundeb presennol mae’r pedwar rhanbarth yn cael tua £6 miliwn rhyngddynt.

Mae rhai o’r rhanbarthau yn teimlo y dylen nhw gael gwell cydnabyddiaeth o ganlyniad i’w hymdrechion i gynorthwyo’r tîm cenedlaethol.

Yn dilyn yr anghydfod hwn mae Prif Weithredwr y Dreigiau, Gareth Davies yn ofni y bydd dyfodol y gêm yn cael ei benderfynu gan y llysoedd.

‘‘Dylai cyfarwyddwyr Undeb Rygbi Cymru fod yn poeni’n arw os mai’r llysoedd fydd yn penderfynu dyfodol y gêm yng Nghymru,’’ meddai Davies.