Yfory fe fydd y Scarlets yn herio Munster, sydd ar frig y tabl yng nghynghrair y Pro 12, ym mharc Musgrave.
Mae rheolwr y Scarlets, Simon Easterby wedi gwneud naw newid i’r tîm a gollodd yn erbyn Clermont Auvergne yng nghystadleuaeth y Cwpan Heineken.
Mi fydd Gareth Owen yn dychwelyd i safle’r cefnwr ac Aled Thomas fydd wrth y llyw yn safle’r maswr. Dim ond un newid sydd ymysg y blaenwyr, gyda Richard Kelly yn safle’r clo.
Tîm y Scarlets
Olwyr – Gareth Owen, Liam Williams, Gareth Maule, Adam Warren, Kristian Phillips, Aled Thomas a Rhodri Williams.
Blaenwyr – Rob Evans, Ken Owens, Jacobie Adriaanse, Jake Ball, Richard Kelly, Josh Turnbull, John Barclay a Rob McCusker (Capten).
Eilyddion – Emyr Phillips, Shaun Hopkins, Rhodri Jones, Johan Snyman, Dan Thomas, Gareth Davies, Rhys Priestland a Mike Poole.