Mae ceisiau wedi bod yn brin i George North ers ymuno â Northampton.
Sgoriodd George North y cais agoriadol – ei gyntaf ers mis Medi dros ei glwb – wrth i Northampton ddial am y grasfa a gawson nhw gan Leinster yr wythnos diwethaf wrth ennill 9-18 i ffwrdd o gartref yng Ngrŵp 1 Cwpan Heineken.
Tiriodd North am gais ar ôl chwe munud wedi gwaith da gan Luther Burrell, ac fe barhaodd i edrych yn beryglus drwy gydol y gêm wrth i’r Seintiau ddal ymlaen am fuddugoliaeth hollbwysig sy’n eu cadw o fewn cyrraedd rownd yr wyth olaf.
Doedd hi ddim yn benwythnos mor ffrwythlon i’r Cymry eraill oddi cartref yng Nghwpan Heineken. Dechreuodd Mike Phillips, Jamie Roberts a Dan Lydiate gyda’i gilydd am y tro cyntaf dros Racing Metro wrth iddyn nhw golli 17-3 i Harlequins yng Ngrŵp 4, canlyniad sy’n eu gadael nhw – a’r Scarlets – gydag ond chwe phwynt ar waelod y grŵp.
Doedd hi fawr gwell i ‘seren’ yr wythnos diwethaf, Martyn Thomas, chwaith wrth iddo yntau a Tavis Knoyle golli 10-16 gyda thîm Caerloyw yn erbyn Caeredin yng Ngrŵp 6. Maen nhw’n dal yn ail yn y grŵp, ond bellach wedi ildio tir i Munster.
Colli oedd hanes Cymry Caerwysg hefyd allan yn Toulon, gyda Tom James a Phil Dollman yn dechrau, a Ceri Sweeney yn dod oddi ar y fainc i drosi cais cysur wrth i’r gêm orffen gyda sgôr o 32-20 i’r Ffrancwyr.
Doedd James Hook na Luke Charteris ar gael i Perpignan wrth iddyn nhw golli o drwch blewyn o 17-18 i Munster, tra bod Lee Byrne hefyd wedi methu gêm Clermont oherwydd anaf wrth iddyn nhw drechu’r Scarlets 13-31.
Yng Nghwpan Amlin cafodd rhai o’r Cymry gwell lwc. Roedd Paul James a Martin Roberts yn rhan o dîm Caerfaddon a chwalodd Mogliano 63-0 diolch i 11 cais, gyda Roberts yn methu a chael ei enw ar y sgorfwrdd ond yn creu digon o gyfleoedd i’w gyd-chwaraewyr.
Cafodd Sale fuddugoliaeth gyfforddus o 53-14 yn erbyn Oyonnax hefyd, gyda Dwayne Peel yn dechrau a Marc Jones a Jonathan Mills hefyd yn ymddangos oddi ar y fainc.
Buddugoliaeth gafodd Biarritz hefyd, gydag Aled Brew yn dechrau ar yr asgell a Ben Broster yn cymryd lle ar y fainc wrth iddyn nhw drechu Caerwrangon 33-25.
Roedd Warren Fury yn nhîm Newcastle wrth iddyn nhw gipio’r pwyntiau gyda sgôr terfynol o 10-25 i ffwrdd yn erbyn Calvisano.
Ond er i Andy Fenby lwyddo i sgorio cais colli wnaeth ei dîm ef a Darren Allinson, gyda Stade Francais yn dangos goruchafiaeth amlwg dros Wyddelod Llundain a’u trechu o 32-14.
Seren yr wythnos: George North – bydd cefnogwyr Northampton yn gobeithio peidio â gorfod disgwyl mor hir am y cais nesaf.
Siom yr wythnos: Mike Phillips – wedi colli’i ddwy gêm gyntaf gyda’i glwb newydd, sydd bellach yn edrych fel petai nhw am fod allan o Ewrop.