Mae Steve Morison ar dân i Millwall ar hyn o bryd
Chwaraeodd Joe Allen ei drydydd 90 munud yn olynol i Lerpwl wrth iddyn nhw chwalu Spurs 5-0, gan ddangos bod lle iddo o hyd yng nghynlluniau Brendan Rodgers er gwaethaf o gystadleuaeth gan Lucas a Henderson ar hyn o bryd.

Er y chwaraeodd Aaron Ramsey ran mewn dwy o goliau Arsenal, siomedig oedd canlyniad terfynol ei dîm wrth iddyn nhw gael eu trechu 6-3 gan Man City mewn gêm gyffrous tu hwnt.

Ar ôl brwydro i gêm gyfartal 1-1 gartref i Hull nos Lun, yr un oedd y sgôr i Abertawe ddydd Sul yn erbyn Norwich hefyd, gyda Ben Davies ac Ashley Williams yn chwarae’r ddwy – dim ond yn erbyn St Gallen y chwaraeodd Neil Taylor, sydd yn sicr yn ail ddewis fel cefnwr chwith bellach.

Cafodd Caerdydd well lwc wrth gipio buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn West Brom, ond yr unig Gymro ar y cae oedd golwr yr ymwelwyr Boaz Myhill, gyda Declan John wedi gorfod ildio’i le nôl i Anthony Taylor.

Anlwcus fu Crystal Palace wrth golli 2-1 i Chelsea, gyda Danny Gabbidon eto’n rhan o’r amddiffyn, ond yn anffodus ni welwyd cip ar Jonny Williams wrth iddo orfod aros ar y fainc.

Ac roedd amddiffyn James Collins a West Ham ychydig yn fwy cadarn wrth iddyn nhw frwydro i gêm ddi-sgôr ddiflas yn erbyn Sunderland, gyda Jack Collison yn ymddangos am hanner awr oddi ar y fainc.

Wythnos weddol ddistaw gafodd Gareth Bale draw yn Sbaen, gan chwarae gêm lawn yng Nghynghrair y Pencampwyr ganol wythnos wrth i Real Madrid drechu Copenhagen 2-0, ond wedyn cael ei eilyddio ar ôl llai nag awr wrth iddyn nhw straffaglu i gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Osasuna dros y penwythnos.

Dychwelodd Adam Matthews o’i anaf i Celtic y penwythnos yma gan ddod oddi ar y fainc am 17 munud wrth i Celtic drechu Hibernian 1-0. Y Cymro Joe Ledley greodd unig gôl y gêm i Teemu Pukki, gydag Owain Tudur Jones yn gwylio’r cyfan o fainc y gwrthwynebwyr.

Yn y Bencampwriaeth roedd Andy King hefyd yn gorfod gwylio o’r fainc wrth i Gaerlŷr gael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Burnley, er gwaetha’r ffaith ei fod wedi sgorio’r wythnos cynt. Chwaraeodd Sam Vokes 90 munud, gan ddod yn agos, ond mae bellach wedi mynd pedair gêm heb gôl.

Ond roedd ‘seren’ yr wythnos diwethaf wrthi eto, gyda Steve Morison yn cyfrannu tuag at un gôl i Millwall cyn sgorio un hwyr ei hun. Mae ganddo bedair gôl y tymor hwn bellach, tair yn y pythefnos diwethaf. Yn anffodus colli 3-2 i Blackburn oedd eu hanes, oedd yn dechrau gydag Adam Henley unwaith yn rhagor.

Dechreuodd Chris Gunter, Rhoys Wiggins, Andrew Crofts a Joel Lynch i’w timau dros y penwythnos, gyda Lynch yn gweld cerdyn coch hwyr. Ymddangosiadau byr o’r fainc yn unig gafwyd i’r ymosodwyr Simon Church, Jermaine Easter a Craig Davies, gyda Hal Robson-Kanu, sydd heb sgorio ers dechrau Hydref, ddim yn cael gêm o gwbl.

Colli 2-0 adref i MK Dons oedd hanes Wolves yng Nghynghrair Un, gyda Sam Ricketts a Dave Edwards yn dechrau. Cafodd Jake Cassidy ddwy funud arall oddi ar y fainc – ble’r oedd rhaid i Wayne Hennessey aros.

Seren yr wythnos: Steve Morison – ella’i bod hi’n bryd atgyfodi cân cefnogwyr Cymru am Morison, mae o’i weld yn neud yn ‘olreit’ ar hyn o bryd …

Siom yr wythnos: David Vaughan – dyw Nottingham Forest ddim wedi cael llawer o ddefnydd ohono ers ei fenthyg o Sunderland, gyda Vaughan bach bellach wedi methu dros fis o chwarae oherwydd anaf.