Mae tîm rygbi Caerloyw wedi cyhoeddi y bydd bachwr Cymru a’r Llewod, Richard Hibbard, yn ymuno a nhw’r tymor nesaf.

Chwaraeodd Richard Hibbard ei gêm gyntaf i Gymru yn erbyn Yr Ariannin yn 2006 a chwaraeodd ran ym mhob un o’r tair gêm brawf i’r Llewod yn erbyn Awstralia dros yr haf.

Meddai cyfarwyddwr rygbi Caerloyw bod arwyddo Richard Hibbard yn symudiad pwysig i’r clwb.

Dywedodd Nigel Davies: “Mae’n dangos ble rydyn ni’n mynd fel clwb. Rydyn ni’n adeiladu tîm, nid yn unig gyda phŵer yn y blaen ond hefyd gyda’r gallu y tu ôl i’r sgrym i chwarae gêm gyflawn.”

Dywedodd Richard Hibbard ei fod yn barod am sialens newydd ond meddai y bydd y Gweilch yn parhau’n agos iawn at ei galon wrth iddo chwarae i’r rhanbarth am y degfed tymor yn olynol eleni.

Meddai Richard Hibbard: “Rwy’n cefnogi’r gweilch ac mi fydda’i o hyd. Ond, mi fydda i’n cefnogi’r tîm o bellter nawr ac rwy’n dymuno’r gorau iddyn nhw yn y dyfodol.

“Rwy’n edrych ymlaen at bennod gyffrous newydd yn fy mywyd i, ac ym mywyd fy nheulu ifanc, ac rwy’n gobeithio y galla’i helpu Caerloyw i ddychwelyd i frig y gêm yn Lloegr ac ym Mhrydain.”