Jade Jones
Bu’n rhaid i’r pencampwr Olympaidd, Jade Jones, setlo am fedal arian ar ôl iddi gael ei churo yn rownd derfynol Grand Prix Taekwondo y Byd ym Manceinion dros y penwythnos.

Roedd y ferch 20 mlwydd oed yn ymladd yn yr un categori 57kg ag oedd hi’n ymladd yn Llundain yn 2012 ond collodd hi’r tro hwn i Eva Calvo Gomez  o Sbaen.

“Dim ond eisiau dweud diolch enfawr i bawb sydd wedi fy nghefnogi i,” meddai Jade Jones ar Twitter yn dilyn yr ornest.

Roedd Jade Jones wedi curo Hou Yuzhuo o Tsieina, y ferch roedd hi wedi curo i gipio’r fedal aur  yn y Gemau Olympaidd, yn y rownd gynderfynol.