Andy Murray
Andy Murray wnaeth gipio teitl Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC neithiwr.
Eleni, y chwaraewr tenis 26 mlwydd oed oedd y Prydeiniwr cyntaf i ennill pencampwriaeth dynion Wimbledon ers 77 mlynedd ac fe wnaeth Martina Navratilova gyflwyno’r wobr iddo wedi iddo ennill pleidlais gyhoeddus.
Daeth chwaraewr rygbi Cymru a’r Llewod, Leigh Halfpenny’n ail yn y gystadleuaeth a’r joci AP McCoy oedd yn drydydd.
Ond doedd Andy Murray ddim yn y seremoni yn Leeds oherwydd ei fod yn America’n gwella ar ôl cael llawdriniaeth ar ei gefn.
“Fyswn i ddim wedi gallu cyrraedd y pwynt yma oni bai mod i’n cymryd fy hyfforddiant a pharatoi o ddifri,” meddai Andy Murray drwy gyswllt fideo neithiwr.
“Rwy wedi rhoi’r 10-15 mlynedd diwethaf o fy mywyd i hyn felly diolch yn fawr iawn i bawb ac mae’n ddrwg gen i nad oeddwn i’n gallu bod yno gyda chi.”