Rhys Priestland wedi ysbrydoli'r Scarlets
Scarlets 13 Clermont Auvergne 10

Mae’r Scarlets fymryn ar y blaen ar hanner amser eu gêm allweddol yng Nghwpan Heineken yn erbyn Clermont Auvergne.

Fe aethon nhw ar ei hôl hi wedi un o geisiau cynta’r tymor – efallai y cyflyma’ erioed yn hanes y gystadleuaeth – a tharo’n ôl gydag un o’r ceisiau gorau.

Ciciau Rhys Priestland oedd yn gyfrifol am weddill y pwyntiau wrth iddyn nhw droi 13-10 ar y blaen ym Mharc y Scarlets mewn gêm y mae angen iddyn nhw ei ennill i fod â gobaith o ennill eu grŵp.

Ond, fe fyddan nhw’n wynebu gwynt nerthol yn yr ail hanner ac roedden nhw wedi gorfod amddiffyn am gyfnodau hir yn erbyn pac pwerus y Ffrancod.

Yr hanner cynta’

Roedd y dechrau’n drychinebus i’r Scarlets wrth iddyn nhw fethu â chasglu’r gic gynta’ – fa eth i ddwylo mewnwr Clermont, Thierry Lacrampe, ac yntau’n cicio’n syth i ddwylo’r asgellwr Naipolioni Nalaga a hwnnw’n sgorio ar ôl llai na hanner munud.

Fe gafodd y Scarlets dri phwynt yn ôl trwy gic gosb gan y maswr, Priestland, pan gafodd capten Clermont y garden felen.

Yna fe ddaeth y cais – Priestland yn torri o’i 22, y canolwr Scott Williams yn bylchu’n wych ac yn rhoi Gareth Maul trwodd i sgorio … a Priestland yn trosi.

Ar ôl cic gosb arall gan Priestland, fe gafodd Clermont hefyd dri phwynt gyda chic ola’r hanner.