Justin Tipuric (Llun WRU)
Roedd hyfforddwr blaenwyr y Gweilch yn arbennig o falch o’u buddugoliaeth annisgwyl yng Nghwpan Heineken neithiwr.

Roedd Chris Gibbes yn hael ei glod i’r tîm ifanc, ac yn arbennig y blaenwyr, wrth iddyn nhw guro Castres o Ffrainc o 21-12 yn Stadiwm Liberty.

Rhan o’r rheswm oedd eu bod wedi cael ychydig rhagor o amser nag arfer i baratoi, meddai, gan roi sylw arbennig i flaenasgellwr Cymru a’r Llewod, Justin Tipuric.

Roedd Tipuric wedi chwarae’n ardderchog, meddai, tra oedd y blaenwyr i gyd wedi dod o hyd i ffordd o ddelio gyda blaenwyr mawr y clwb Ffrengig.

Hon oedd buddugoliaeth gynta’r Gweilch ym Mhwll 1 y cwpan, ar ôl iddyn nhw golli’r tair arall.