Andrew Taylor (CCA 2.0)
Mae cefnwr Caerdydd, Andrew Taylor, yn debyg o ddechrau’r gêm y prynhawn yma yn erbyn West Bromwich Albion.
Roedd wedi colli’r ddwy gêm ddiwetha’ – y pwynt yn erbyn Stoke a’r golled yn erbyn Crystal Palace – ond mae’n dweud ei fod yn eiddgar i fynd yn ôl ar y cae.
Fe roddodd ganmoliaeth i’r amddiffynnwr ifanc, Declan John, am gymryd ei le tros y cyfnod ond roedd yn pwysleisio bod y cyfnod nesa’n un tyngedfennol i’r clwb.
“Mae’r gêmau’n dod un wrth gwt y llall ac os gallwch chi roi rhediad gweddol at ei gilydd yna fe allwch fod mewn safle gwahanol iawn i’r man lle dechreuoch chi,” meddai.
Un pwynt
Dim ond pwynt ar ôl West Brom yw Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair, gyda’r ‘Baggies’ ar rediad gwael o golli tair gêm yn olynol.
Dydyn nhw chwaith ddim wedi ennill yng Nghaerdydd ers 1974, ond dyma’r tro cynta’ i’r ddau glwb chwarae’i gilydd yn yr Uwch Gynghrair.