Roedd 21 pwynt i Dan Biggar heno
Y Gweich 21 – 12 Castres

Mae’r Gweilch wedi codi oddi-ar waelod Grŵp 1 Cwpan Heineken wedi buddugoliaeth dda yn erbyn Castres heno.

Cyfnewidiwyd dwy gic gosb lwyddiannus yr un mewn chwarter awr agoriadol tynn, cyn i’r Gweilch agor bwlch gyda dwy gic gosb arall o droed Dan Biggar.

Er hynny, a cholli eu capten am 10 munud i’r cell callio, yn ôl ddaeth Castres gyda dwy gic gosb i ddod â’r sgôr yn gyfartal 12-12 ar yr hanner.

Parhau wnaeth y patrwm yn yr ail hanner, gyda chiciau cosb yn darparu’r pwyntiau. Yr unig wahaniaeth oedd mai dim ond Y Gweilch fanteisiodd, gyda Biggar yn cicio tair i gipio’r fuddugoliaeth.

Bydd Northampton yn teithio i Leinster yfory yng ngêm arall y grŵp y penwythnos hwn.

Y Gweilch: Davies, Natoga, Isaacs, John, Hassler, Biggar, Webb, Bevington, Hibbard, Jarvis, Ardron, King, Lewis, Tipuric, R. Jones, S. Williams.

Eilyddion: Haberfield am Webb (’56), Allen am Hibbard (’74), Suter am Jarvis (’67), S. Williams am Ardron (’41), Baldwin am S. Williams (’74)

Castres: Palis, Garvey, Lamerat, Bonnefond, Grosso, Tales, Kockott, Forestier, Rallier, Peikrishvili, Gray, Capo Ortega, Bornman, Caballero, Classen.

Eilyddion: Kirkpatrick am Tales (’56), Tomas am Kockott (’63), Taumoepeau am Forestier (’47), Mach am Rallier (’58), Coetzee am Peikrishvili (’67), Diarra am Caballero (’47)