Glasgow 7 – 9 Gleision Caerdydd

Cipiodd y Gleision fuddugoliaeth werthfawr oddi-cartref yng Nglasgow gan godi  i frig Grŵp 2 Cwpan Heineken.

Ar ôl colli eu gêm gyntaf yng Nghaerwysg yn drwm, mae’r Gleision wedi sicrhau tair buddugoliaeth o’r bron, a chodi i safle cryf ar gyfer cyrraedd chwarteri’r gystadleuaeth.

Roedd tair cic gosb yn ddigon i’r ymwelwyr, er i gais hwyr gan Glasgow wneud iddynt chwysu.

Ciciodd Rhys Patchell y gyntaf o’r hanner ei hun i roi ei dîm ar y blaen, cyn i Leigh Halfpenny ychwanegu triphwynt arall i roi goruchafiaeth o 6-0 i’r ymwelwyr ar yr hanner.

Fe wnaeth troed Halfpenny ymestyn y sgôr i 9-0 wedi 65 munud, cyn i Ryan Grant sgorio dan y pyst bum munud yn ddiweddaraf – y trosiad yn dod â’r tîm cartref o fewn sgôr.

Er hynny, llwyddodd y Gleision i atal y tîm cartref rhag sgorio eto i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Mae Caerwysg yn teithio i herio Toulon yfory, ond am y tro, y Gleision sydd ar frig eu grŵp.

Glasgow: Stuart Hogg; Sean Maitland, Byron McGuigan, Alex Dunbar, Tommy Seymour; Ruaridh Jackson, Niko Matawalu; Ryan Grant, Pat MacArthur, Jon Welsh, Leone Nakarawa, Al Kellock (c), Robert Harley, Tyrone Holmes, Ryan Wilson

Eilyddion:Doug Hall, Jerry Yanuyanutawa, Ed Kalman, Josh Strauss, Chris Fusaro, Chris Cusiter, Duncan Weir, DTH van der Merwe.

Gleision Caerdydd: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Richard Smith, Rhys Patchell, Harry Robinson, Gareth Davies, Lloyd Williams; Sam Hobbs (c), Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Chris Dicomidis, Filo Paulo, Macauley Cook, Rory Watts-Jones, Robin Copeland

Eilyddion: Marc Breeze, Thomas Davies, Benoit Bourrust, James Down, Ellis Jenkins, Andries Pretorius, Lewis Jones, Dan Fish.