Ar ôl ennill pob gêm dros y Nadolig y llynedd mae amddiffynnwr Caerdydd Andrew Taylor yn ymwybodol o bwysigrwydd y gemau yr adeg hon o’r tymor.
Mae tair o bedair gêm nesaf Caerdydd gartref gan ddechrau gyda’r gêm yn erbyn West Bromwich Albion. Hefyd fe fydd Southampton a Sunderland yn ymweld â Stadiwm Caerdydd yn ystod y mis hwn, ac fe fydd yn rhaid teithio i chwarae Lerpwl.
‘‘Mae’r amser hwn o’r flwyddyn yn bwysig. Mae’r gemau yn dod yn gyflym a byddai rhediad da ac ennill gemau yn sicrhau ein bod yn esgyn yn y tabl. Nid oes angen ysgogi’r chwaraewyr, yr ydym yn ymwybodol o bwysigrwydd y gemau hyn ac fe fyddwn yn barod. Mae gennym ddigon o hyder y nein gallu i wneud yn dda,’’ meddai Taylor.
Ar y funud mae gan West Brom un pwynt yn fwy na thîm y brifddinas.