Mae yna 25 o goliau wedi bod yn y chwe gêm ddiwethaf rhwng Abertawe a Norwich felly mae’n ymddangos y cawn gêm gyffrous brynhawn Sul.
Ni fydd yr amddiffynnwr Chico Flores ar gael i’r Elyrch oherwydd gwaharddiad, ond mae’n debyg y byddai’n colli’r gêm beth bynnag ar ôl gadael y cae yn gynnar oherwydd anaf yn y gêm yn erbyn St Gallen. Y gobaith yw y bydd y cefnwr Angel Rangel yn chwarae wedi pythefnos hesb oherwydd anaf.
Bydd Abertawe yn anelu am bedwaredd buddugoliaeth oddi cartref y tymor hwn. Mae’r blaenwyr – Michu a sgoriodd dair gwaith yn erbyn Norwich y tymor diwethaf a Wilfried Bony – wedi colli gemau y tymor hwn oherwydd anafiadau, ond wedi dychwelyd yr wythnos hon.
Hyd yn hyn y tymor hwn dwy fuddugoliaeth gafodd Abertawe mewn saith gêm oddi cartref a sgorio ond chwech gôl yn y gemau hynny. Ar ôl dweud hynny tîm Abertawe sydd ar frig yr Uwch Gynghrair o ran cadw’r meddiant 59.7% a chywirdeb pasio 87%.