Mae golwg360 wedi bod yn rhoi sylw i dîm chwaraeon lleol bob wythnos, gan ddod i nabod rhai o’r cymeriadau ac edrych ymlaen at eu gêm ar y penwythnos. Yr wythnos hon tîm Clwb Rygbi Llambed sydd o dan sylw wrth iddyn nhw baratoi i herio Llangennech.
Proffil y Clwb
Lliwiau: Porffor a glas golau
Cynghrair: Adran Pedwar (Gorllewin) Cynghrair SWALEC
Rheolwr: Mark Jenkins
Prif Hyfforddwr: Paul Jones
Capten: Aled Thomas
Gêm gyfartal gafwyd y penwythnos diwethaf i ‘Tîm yr Wythnos’ golwg360 wrth i bêl-droedwyr y brifddinas, Ail Dîm Clwb Cymric, ildio’n hwyr am ganlyniad o 2-2 yn erbyn Llanrhymni.
Yr wythnos hon yn ôl i gefn gwlad Cymru yr awn ni, ac i Geredigion yn benodol, wrth i chwaraewyr rygbi Clwb Llambed ddenu’r sylw.
Mae’r clwb ar hyn o bryd yn chwarae yn Adran Pedwar (Gorllewin) Cynghrair SWALEC, ar ôl disgyn o’r drydedd adran ddiwedd tymor diwethaf yn dilyn blynyddoedd o chwarae ar y lefel hwnnw.
Edrych am ddyrchafiad
Ond maen nhw’n cael gwell lwc y tymor hwn ac yn bedwerydd yn eu cynghrair ar hyn o bryd, wrth iddyn nhw geisio anelu am ddyrchafiad yn syth yn ôl i Adran Tri.
Maen nhw wedi ennill saith o’u naw gêm hyd yn hyn y tymor hwn, gan orwedd wyth pwynt y tu ôl i Hendy ar y brig.
Ac nid drwy lwc y cawson nhw’r canlyniadau hynny chwaith – Llambed sydd wedi ildio’r nifer lleiaf (97) o bwyntiau hyd yn hyn yn y gynghrair, yn ogystal â sgorio’r cyfanswm ail uchaf o bwyntiau (323).
“Mae’r tymor wedi bod yn ardderchog hyd yn hyn,” meddai’r rheolwr Mark Jenkins. “Ma’r bois yn ymarfer yn dda ac maen nhw’n griw hwylus iawn. Ni’n sicr yn edrych am ddyrchafiad y tymor yma.
“Gawson ni ddim lot o hwyl blwyddyn dwetha’ [pan aethon nhw lawr] ond ma’ fe’n wahanol iawn nawr. Ni di cal dau hyfforddwr newydd mewn, Paul Jones a Mark Lewis [hyfforddwr y blaenwyr], oedd yn arfer chwarae i’r clwb ac wedi rhoi popeth, ac mae’r chwaraewyr wedi ymateb i hynny.
“Ni ‘di whare’r rhan fwyaf o gemau bant o gartre’ nes nawr, oherwydd ein bod ni’n gorffen y ‘clubhouse’ newydd. Ma’ fe’n ‘functional’ ar hyn o bryd ond gobeithio bydd e’n barod erbyn wythnos nesaf – yn sicr erbyn y Nadolig.”
Dyma rai o’r chwaraewyr yn cyflwyno’i hunain ac yn ateb cwestiynau cyflym:
Gêm gwpan yfory
Cyn iddyn nhw golli i Benybanc sydd nawr yn drydydd yr wythnos diwethaf, roedd Llambed wedi ennill eu chwe gêm ddiwethaf yn olynol, ac fe fyddwn nhw’n gobeithio ailddarganfod y sbarc hwnnw’r penwythnos yma mewn gêm gwpan.
Eu gwrthwynebwyr ym Mhowlen SWALEC fydd Llandybie, tîm sydd ar frig Adran Chwech y Gorllewin ac wedi ennill pob un o’u wyth gêm hyd yn hyn.
Ond gyda’u gwrthwynebwyr ddwy adran yn is na Llambed, bydd gan y tîm cartref obeithion uchel o sicrhau canlyniad positif brynhawn Sadwrn.
“Chwaraeon ni yn erbyn nhw cyn dechrau tymor dwetha,” meddai Mark Jenkins. “Roedden nhw yn Adran Tri ‘chydig o flynydde’ nôl, felly maen nhw’n glwb sydd yn edrych i godi i’r lefel na ‘to. Bydd hi’n gêm galed, ond fi’n weddol hyderus allwn ni ennill.
“Fe wnaethon ni gyrraedd ffeinal y Bowlen bum mlynedd yn ôl, a ni’n anelu i neud ‘na ‘to eleni.”
Bydd golwg360 yn adrodd yn ôl ar ganlyniad yr ornest rhwng Llambed a Llandybie dros y penwythnos, ac yn y cyfamser os hoffech chi i’ch tîm chi gael sylw fel ‘Tîm yr Wythnos’, cysylltwch â ni!
Carfan Llambed:
Blaenwyr: Chris ‘Bola’ Thomas, Dorian Thomas, Dylan Davies, Wayne Thomas, Emyr Evans, Rob Morgan, Meirion Jones, Rhys Jones, Eirwyn Thomas, Daniel Doughty, Aled Jacobs, Owain Jones, Daryl Davies, Rhydian Evans, Gavin Simpson, Guto Jones, Geraint Thomas, Ceri Thomas, Aled Thomas, Rhys Evans, Elliot Benjamin
Olwyr: Gethin Hunter, Carwyn Gregson, Dyfan Evans, Joe Thomas, Jonny King, Llyr Davies, Rhys Davies, Sam Lewis, Tom Rees, Kyle Ward, Carwyn Lewis, Richard Hope, David Heath, Gareth Griffiths, Brynmor Jones, Gethin Roberts, Callum Williams, Lyn Jones.