Ryan Jones
Wedi colli tair gêm daeth gobeithion y Gweilch i ben yng nghystadleuaeth y Cwpan Heineken.  O ganlyniad mae’r prif hyfforddwr Steve Tandy wedi penderfynu gorffwys y capten Alun Wyn Jones.

Y chwaraewr rhyngwladol profiadol Ryan Jones fydd yn arwain y tîm yn erbyn Castres heno.  Hefyd bydd y maswr ifanc Sam Davies yn dechrau ei gêm gyntaf yn y gystadleuaeth fel cefnwr.  Wrth egluro ei reswm dros roi gorffwys i’w gapten dywedodd Tandy ei fod wedi chwarae nifer o gemau caled i’w wlad ac i’r rhanbarth yn ddiweddar, ac y byddai yna gemau pwysig eto i ddod ddechrau’r flwyddyn.

Mae’r hyfforddwr yn gobeithio y bydd ei dîm yn medru ennill heno ar ôl colli 15-9 iddyn nhw nos Wener ddiwethaf.

‘‘Yr oedd yn gêm galed allan yn Castres y penwythnos diwethaf,” meddai Steve Tandy.

“Er ein bod yn siomedig iawn o gipio un pwynt yn unig , fe ddaeth yna rai pethau da o’r gêm.  Yr oedd yn braf iawn gweld nifer o chwaraewyr ifanc dibrofiad yn gwneud yn dda.  Mae llawer o’r pethau da a welsom yn y gêm wedi codi’r hyder ar gyfer yr wythnos hon.”