Ken Owens
Mae’r bachwr rhyngwladol Ken Owens wedi dweud bod yn rhaid i’r Scarlets guro Clermont Auvergne brynhawn yfory er mwyn cael unrhyw siawns o aros yng nghystadleuaeth y Cwpan Heineken.
‘‘Mae’n rhaid ennill ar Barc y Scarlets ddydd Sadwrn yn erbyn arweinwyr y grŵp, mae’r peth mor syml â hynny,’’ meddai’r bachwr 26 oed wrth y wasg.
Er i’r Scarlets golli 32-11 yn erbyn Clermont y penwythnos diwethaf mae Owens yn credu bod buddugoliaeth yn bosib yfory.
‘‘Mae’n rhaid i ni fod yn fwy cywir wrth ymosod a dal gafael ar y bêl am gyfnodau hirach. Dim ond 30% o’r meddiant a’r tir gawsom ni y penwythnos diwethaf, ac ni ellir curo Clermont gyda ffigurau fel yna. Er mwyn eu curo rhaid sicrhau pwyntiau, rhywbeth na lwyddon ni i’w wneud,’’ ychwanegodd Ken Owens.
“Mae’n rhaid i ni roi pwysau arnyn nhw a gobeithio y byddan nhw’n blino erbyn y diwedd wrth orfod amddiffyn yn barhaus. Mae’n rhaid i ni geisio difetha eu patrwm o chwarae.’’