Bordeaux-Begles 32–13 Dreigiau Casnewydd Gwent
Collodd y Dreigiau gyfle i godi i frig Grŵp 2 Cwpan Amlin wrth golli yn erbyn Bordeaux-Begles yn y Stade Andre Moga nos Iau.
Trechodd y Dreigiau’r Ffrancwyr ar Rodney Parade wythnos yn ôl ond methodd tîm Lyn Jones ag ail adrodd y gamp yn ne Ffrainc yr wythnos hon.
Cyfnewidiodd y ddau faswr, Jason Tovey a Nicolas Sanchez, giciau cosb cynnar cyn i Sanchez groesi am gais agoriadol y gêm wedi saith munud.
Trosodd y gŵr o’r Ariannin ei gais ei hun cyn ychwanegu dwy gic gosb hefyd i sefydlu mantais gyfforddus i’w dîm wedi chwarter y gêm
Ond roedd y Dreigiau yn ôl ynddi erbyn yr egwyl diolch i gic gosb arall gan Tovey a chais gan Toby Faletau, 19-13 y sgôr ar hanner amser o blaid y Ffrancwyr.
Anfonwyd Lewis Evans i’r gell gosb yn gynnar yn yr ail gyfnod a throsodd Sanchez y gic gosb ganlynol i roi dwy sgôr rhwng y timau eto.
A doedd dim amheuaeth am y canlyniad yn y diwedd wedi i Bordeaux ychwanegu dau gais arall yn y deuddeg munud olaf. Croesodd yr asgellwr, Robert Lilomaiava, i ddechrau cyn i’r eilydd, Jefferson Poirot orffen y gêm gyda chais.
Mae’r Dreigiau yn aros yn ail yng Ngrŵp 2 er gwaethaf y canlyniad, dri phwynt y tu ôl i Gaerfaddon ar y brig.
.
Bordeaux-Begles
Ceisiau: Nicolas Sanchez 7’, Robert Lilomaiava 68’, Jefferson Poirot 80’
Trosiad: Nicolas Sanchez 7’
Ciciau Cosb: 4’, 15’, 22’, 28’, 43’
.
Dreigiau
Cais: Toby Faletau 36’
Trosiad: Jason Tovey 36’
Ciciau Cosb: Jason Tovey 2’, 26’
Cardiau Melyn: Andrew Coombs 28’, Lewis Evans 42’