St Gallen 1–0 Abertawe

Mae Abertawe yn rownd nesaf Cynghrair Ewropa er iddynt golli oddi cartref yn erbyn St Gallen yn yr AFG Arena nos Iau.

Sgoriodd Marco Mathys unig gôl y noson ddeg munud o’r diwedd i ennill y gêm i’r tîm o Swistir, ond gorffennodd Abertawe yn ail yng Ngrŵp A serch hynny gan mai dim ond pwynt a gafodd Kuban Krasnodar yn Valencia.

Hanner Cyntaf

Ychydig o gyfleoedd a gafwyd mewn hanner cyntaf niwlog diflas. Daeth dau gyfle gorau Abertawe i Roland Lamah ond anelodd ei ddwy ergyd fodfeddi heibio’r postyn. Llwyddodd Jonjo Shelvey i daro’r targed i’r Elyrch ond arbedodd Marcel Herzog yn y gôl i St Gallen yn gyfforddus.

Yn y pen arall roedd Abertawe yn flêr, yn colli’r meddiant yn gyson ond cawsant eu hachub dro ar ôl tro gan eu trap camsefyll.

Ail Hanner

Roedd hi’n dipyn gwell gêm wedi’r egwyl a bu bron i Wilfred Bony benio’r ymwelwyr ar y blaen o gic gornel Jonathan De Guzman yn y munudau cyntaf.

Cafodd Roberto Rodriguez ddau gyfle gwych i St Gallen un-ar-un yn erbyn Gerhard Tremmel yn fuan wedyn ond llwyddodd yr Almaenwr rhwng y pyst i Abertawe arbed gyda’i draed ar y ddau achlysur.

Tarodd cic rydd grefftus Sébastien Wüthrich yn erbyn y postyn hefyd ac roedd yr Elyrch dan bwysau yn yr hanner awr olaf.

Rhoddodd Neil Taylor y bêl yng nghefn ei rwyd ei hun ugain munud o’r diwedd ond barnodd cynorthwyydd y dyfarnwr y tu ôl i’r gôl fod capten Abertawe ar y noson wedi cael ei wthio yn y cwrt chwech.

Funudau’n ddiweddarach fe gafodd peniad Mathys ei chlirio oddi ar y llinell ond doedd dim atal y chwaraewr canol cae ddeg munud o ddiwedd y naw deg. Croesodd Wüthrich y bêl ar draws y cwrt chwech yn dilyn cic rydd gyflym ac roedd Mathys wrth law i rwydo.

Cafodd eilydd Abertawe, Pablo Hernandez, gyfle i unioni pethau yn y munudau olaf ond crafodd ei gynnig heibio’r postyn.

32 Olaf

Mae Abertawe yn ddiogel yn 32 olaf Cynghrair Ewropa er gwaethaf y canlyniad siomedig yn y Swistir gan i Kuban Krasnador fethu ag ennill yn Valencia.

Cael a chael i’r Elyrch yn y diwedd felly gyda dim ond dau bwynt yn eu pedair gêm olaf ynn Ngrŵp A, ond roedd tîm Michael Laudrup wedi gwneud digon gyda dwy fuddugoliaeth yn y ddwy gêm agoriadol.

.

St Gallen

Tîm: Herzog, Mutsch, Lenjani, Janjatovic, Russo, Besle, Wüthrich, Demiri, Karanoviç (Keita 13′), Mathys (Franin 88′), Rodriguez (Nushi 59′)

Gôl: Mathys 80’

Cerdyn Melyn: Lenjani 81’

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Tiendalli, Taylor, Shelvey, Chico (Cañas 62′), Amat, Routledge (Williams 65′), De Guzmán, Bony (Hernández 77′), Pozuelo, Lamah

Cerdyn Melyn: Cañas 90’

.

Torf: 15,298