Rhys Thomas
Mi fydd y bachwr Rhys Thomas yn dychwelyd i’r Dreigiau wedi iddo golli tri mis oherwydd anaf i’w bigwrn.
Naw newid sydd i’r tîm a gurodd Bordeaux-Bègles yn Rodney Parade y penwythnos diwethaf.
‘‘Roeddwn yn hapus gyda’r perfformiad yr wythnos diwethaf. Wedi dweud hynny, rydym yn hollol ymwybodol o’r her sydd o’m blaenau,’’ meddai Lyn Jones, rheolwr y Dreigiau.
Un newid sydd i’r olwyr gyda Ross Wardle yn safle’r asgellwr. Owen Evans fydd yn dechrau yn safle’r prop a Rob Sidoli yn dychwelyd i safle’r clo. Nid oes yna unrhyw newidiadau i’r rheng-ôl.
Tîm y Dreigiau
Olwyr – Daniel Evans, Matthew Pewtner, Patrick Leach, Ashley Smith, Ross Wardle, Jason Tovey a Wayne Evans.
Blaenwyr – Owen Evans, Sam Parry, Francisco Chaparro, Andrew Coombs (Capten), Rob Sidoli, Lewis Evans, Nic Cudd a Toby Faletau.
Eilyddion – Rhys Thomas, Hugh Gustafson, Nathan Buck, Matthew Screech, Netani Talei, Richie Rees, Steffan Jones a Will Harries.