Nos yfory fe fydd  Gleision Caerdydd yn herio’r Glasgow Warriors yn Stadiwm Scotstoun yng nghystadleuaeth y Cwpan Heineken.

Dim ond un newid sydd i’r tîm a gurodd Glasgow’r wythnos diwethaf, Gareth Davies fydd yn dechrau yn safle’r maswr gyda Rhys Patchell yn symud i’r canol yn lle Dafydd Hewitt sydd wedi anafu ei ysgwydd.

‘‘Rydym yn hynod o falch o’r perfformiad yr wythnos diwethaf.  Bydd angen gweithio’n galetach yn yr Alban, mi fydd hi’n gêm anodd oherwydd rwy’n siŵr eu bod wedi siomi gan y gêm yr wythnos diwethaf.  Mae’n rhaid i ni adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi ei gyflawni yn y gystadleuaeth cyn belled,’’ meddai Phil Davies, rheolwr y Gleision.

Tîm y Gleision

Olwyr – Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Richard Smith, Rhys Patchell, Harry Robinson, Gareth Davies a Lloyd Williams.

Blaenwyr – Sam Hobbs (Capten), Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Chris Dicomidis, Filo Paulo, Macauley Cook, Rory Watts-Jones a Robin Copeland.

Eilyddion – Marc Breeze, Thomas Davies, Benoit Bourrust, James Down, Ellis Jenkins, Andries Pretorius, Lewis Jones a Dan Fish.