Ni lwyddodd Undeb Rygbi Cymru a rhanbarthau’r Gweilch, Scarlets, Gleision a’r Dreigiau ddod i gytundeb ddoe er gwaethaf diwrnod o drafod er mwyn ceisio datrys yr anghydfod rhyngddynt.
Daeth y cyfarfod i ben yn Stadiwm y Liberty yn Abertawe ddoe gyda’r ddwy ochr dal ddim yn gweld llygad yn llygad ar nifer o faterion gafodd eu trafod, gan gynnwys ariannu, cadw chwaraewyr Cymru yn y rhanbarthau a chynghrair Eingl-Gymreig.
Yn ôl yr Undeb, fodd bynnag, roedd y trafodaethau wedi bod yn rhai ‘adeiladol’ ac mae disgwyl iddyn nhw gwrdd eto gyda’r rhanbarthau yn fuan.
Undeb dal eisiau cytundeb
Fe ryddhaodd yr Undeb ddatganiad ar ôl y cyfarfod gan ddweud eu bod nhw’n obeithiol y byddai cytundeb cyfranogiad yn cael ei arwyddo ble byddai’r rhanbarthau’n parhau i chwarae yn y cystadlaethau mae URC wedi cymeradwyo.
Dywedodd y datganiad: “Yng nghyfarfod Bwrdd y Gêm Ranbarthol Broffesiynol heddiw rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r pedwar Sefydliad Rhanbarthol cafodd ystod o bynciau eu trafod.
“Yn ystod y cyfnod allweddol hwn i rygbi yng Nghymru mae URC yn parhau i weithio’n galed dros fuddiannau rygbi Cymru yn ei gyfanrwydd.
“Byddai’n annheg ar gefnogwyr, chwaraewyr a rygbi Cymru gyfan i wneud sylw pellach ar hyn o bryd.
“Fodd bynnag, mae URC yn obeithiol y gall y Rhanbarthau benderfynu parhau â’r Cytundeb Cyfranogiad erbyn y terfyn amser o’r 31 Rhagfyr 2013.”
Ansicrwydd y rhanbarthau
Siaradodd cadeirydd y Gleision, Peter Thomas, wrth newyddiadurwyr ar ôl y cyfarfod gan bwysleisio’r angen i barhau gyda’r trafodaethau.
“Mae’n rhaid i ni barhau ein deialog a pharhau i siarad,” meddai Peter Thomas. “Rydym ni’n parhau i geisio symud pethau ymlaen er budd i rygbi Cymru.
“Mae’r ffaith bod clybiau Lloegr ddim yn Ewrop a chlybiau Ffrainc heb benderfynu ar y cyfan yn gwneud pethau’n ansefydlog iawn ar hyn o bryd.
“Roedd awyrgylch [y cyfarfod] yn dda ac roedd pawb yn ymddwyn mewn ffordd gyfrifol. Rydym ni’n ceisio, fel corff cyfrifol, i geisio canfod datrysiad ac fe fyddwn ni’n parhau i wneud hynny.”
Y cloc yn tician
Mae gan y rhanbarthau hyd nes ddiwedd y mis i arwyddo cytundeb newydd gyda’r Undeb Rygbi neu wynebu colli hyd at £16.5miliwn y flwyddyn.
Ar hyn o bryd mae’r rhanbarthau’n ystyried torri’n rhydd o Undeb Rygbi Cymru er mwyn ymuno gyda chynghrair Lloegr – ac yn ystyried camau cyfreithiol os bydd URC yn ceisio’u hatal.
Mae cynlluniau ar gyfer Cwpan Pencampwyr Rygbi newydd i gymryd lle Cwpan Heineken bellach wedi mynd i’r wal, gyda chlybiau Lloegr nawr yn dweud na fydden nhw’n chwarae yn Ewrop y flwyddyn nesaf.
Ac mae cyn-gapten Cymru Ryan Jones wedi galw ar gynghrair rygbi Prydeinig i gael ei sefydlu fel datrysiad i’r broblem.
Mae’r ansicrwydd wedi arwain at nifer o chwaraewyr Cymru, gan gynnwys Jonathan Davies ac Ian Evans, i arwyddo cytundebau gyda chlybiau yn Ffrainc o dymor nesaf ymlaen.
Mae ansicrwydd hefyd yn bodoli dros ddyfodol nifer o sêr eraill y rhanbarthau gan gynnwys Sam Warburton, oedd wedi rhoi terfyn amser ar yr Undeb Rygbi a’i ranbarth i gynnig cytundeb newydd iddo erbyn ddoe neu fe fyddai’n ystyried cynigion eraill.