Nathan Cleverly
Bydd y bocsiwr Nathan Cleverly’n dychwelyd i’r sgwâr ym mis Chwefror i wynebu’r gŵr o Awstralia Daniel Ammann am bencampwriaeth pwysau ‘cruiser’ y Gymanwlad.
Roedd Cleverly ac Ammann i fod i ymladd ei gilydd ar ddiwedd mis Tachwedd eleni, ond gohiriwyd yr ornest oherwydd i’r Cymro ddioddef anaf i’w gefn wrth ymarfer.
Fe fydd y ddau ohonyn nhw nawr yn wynebu’i gilydd yn y Copper Box Arena yn Llundain ar 8 Chwefror, yr un noson y bydd Dereck Chisora a Billy Joe Saunders yn ymladd.
Hon fydd gornest gyntaf Cleverly yn y pwysau ‘cruiser’, sydd un yn uwch na’r pwysau is-drwm ble’r oedd yn bencampwr byd yn gynharach yn ei yrfa.
Dyw’r gŵr o Went heb ymladd ers mis Awst pan gollodd ei deitl byd WBO is-drwm i Sergey Kovalev o Rwsia, colled gyntaf ei yrfa broffesiynol.
Ac mae Cleverly bellach yn anelu i fod yn bencampwr byd yn y categori pwysau uwch.
“Dwi nôl yn bocsio a dwi nôl yn y gamp er mwyn bod yn bencampwr byd,” meddai. “Fe wnes i addo i fy hun, dwi nôl i gipio’r teitl byd.”
Dywedodd ei hyrwyddwr, Frank Warren, ei fod yn gobeithio y bydd Cleverly’n barod i ymladd am deitl byd pwysau ‘cruiser’ rywbryd y flwyddyn nesaf os bydd yn llwyddo i drechu Ammann ym mis Chwefror.